Gwarchodfa Natur Leol Coed Cwmllwyd
Yn bennaf mae'r warchodfa'n cynnwys coed derw sydd tua 100 mlwydd oed a gafodd eu plannu ar ôl cliriad blaenorol.
Hefyd, mae llawer o goed bedw, celyn, helyg a chriafol yn ogystal â rhai coed afal mawr ger y gwaith glo, y maent yn bodoli, o bosib, o ganlyniad i lowyr daflu creiddiau eu hafalau i ffwrdd. Mae hanes o lofeydd yn yr ardal ers yr 17eg ganrif, a gellir gweld adfeilion tua 35 pwll cloch o fewn ffin y Warchodfa.
Mae Coed Cwmllwyd, sy'n cael ei reoli ar gyfer bywyd gwyllt a phobl, yn gorwedd ar lethr ddeheuol Cwm Cocyd, tua dwy filltir o Abertawe. Daeth y coetir 7 hectar yn Warchodfa Natur Leol ym 1981. Mae'n adnabyddus oherwydd ei bwtsias y gog sydd ar eu gorau ym mis Mai.