Toglo gwelededd dewislen symudol

Gerddi Botaneg Singleton

Mae'r Gerddi Botaneg yn gartref i un o gasgliadau planhigion pennaf Cymru gyda borderi blodau lliwgar a thai gwydr mawr.

Er bod y gerddi ar eu gorau ym mis Awst, mae rhywbeth i'w weld drwy gydol y flwyddyn. Mae'r borderi blodau'n olygfa hyfryd o ddiwedd mis Mawrth tan ganol fis Hydref, a hyd yn oed yn ystod misoedd garw y gaeaf mae gan yr ardd lawer i'w chynnig, gyda hyd at 200 o blanhigion gwahanol yn eu blodau yn ystod tymor y Nadolig.

Am fod yr ardd hon wedi'i lleoli o fewn awyrgylch llonydd prif Parc Singleton, mae'n lle hamddenol i ddod i edrych neu i ennyn ysbrydoliaeth am eich gardd eich hun. Mae digon o lefydd i eistedd ac edmygu'r golygfeydd braf.

Nodweddion diddorol

  • Borderi blodau
  • Gwelyau buddugoliaeth
  • Gardd greigiau
  • Gerddi addurnol
  • Pont Japaneaidd
  • Tai Gwydr
  • Gardd berlysiau
  • Planhigion ar werth
  • Gardd blodau gwyllt/les

Oriau agor

(gan gynnwys gwyliau banc)

Ionawr - Chwefror: 10.00am - 3.30pm
Mawrth - Ebrill: 10.00am - 4.30pm
Mai - Medi: 10.00am - 6.00pm
Hydref: 10.00am - 4.30pm
Tachwedd - Rhagfyr: 10.00am - 3.30pm

Mae'r mynediad i Erddi Botaneg Singleton am ddim.  Gellir parcio yn Heol Sgeti (A4118) y tu allan i'r parc, neu gall deiliaid y Bathodyn Glas barcio y tu allan i brif fynedfa'r Gerddi Botaneg.

Mae Cyfeillion Safleoedd Botaneg Dinas Abertawe (Yn agor ffenestr newydd) (CBCDA) yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth a mwynhad y cyhoedd o'r parciau a'r gerddi hyfryd yn Abertawe.

Yn benodol, mae CBCDA yn cefnogi'r Gerddi Botaneg ym Mharc Singleton, Gerddi Clun yn Blackpill a Plantasia yng nghanol y ddinas. Mae ymweld ag unrhyw un o'r trysorau garddwriaethol hyn yn brofiad gwobrwyol yn ystod unrhyw dymor.

Mae CBCDA yn codi arian trwy ei Siop Blanhigion yn y Gerddi Botaneg sydd ar agor rhwng 10.00am a 2.00pm bob dydd Sadwrn rhwng mis Ebrill a mis Medi. Yna gallwch ddod o hyd i amrywiaeth eang o goed, llwyni a phlanhigion am brisiau cystadleuol.

Close Dewis iaith