Toglo gwelededd dewislen symudol

Camlas Abertawe

Mae Camlas Abertawe'n goridor gwyrdd deniadol ac yn lle hyfryd i fynd am dro.

Cafodd rhan helaeth o'r gamlas ei mewnlenwi yn ystod y 50 mlynedd diwethaf ac erbyn hyn, dim ond pum milltir o'r gamlas sydd ar ôl â dwr ynddi. Gall cychod ddefnyddio'r gamlas yng nghyffiniau Clydach a Phontardawe lle mae Cymdeithas Camlas Abertawe'n gweithredu teithiau cwch. Cadwch lygad am draphont ddwr Clydach Isaf, croesfan ddeniadol lle mae'r gamlas a dwy afon, Tawe a Chlydach Isaf, yn cydgyfarfod.

Adeiladwyd Camlas Abertawe rhwng 1794 a 1798 a hon oedd yr adeiledd sylweddol cyntaf yn y cwm. Roedd yn llwybr cludiant gwerthfawr i fasnach a diwydiant, yn ogystal â darparu dwr a phwer ar eu cyfer.

Roedd y gamlas yn ymestyn am 16 milltir o Abertawe i'r Hen Neuadd, Abercraf gan godi 400tr trwy gyfres o 36 o lociau. Roedd ganddi dair camlas gangen. Daeth masnachu i ben ar rannau uchaf y gamlas ar droad y ganrif ond roedd ar agor hyd at Glydach tan 1931. Gwaith nicel y Mond yng Nghlydach yw unig ddefnyddiwr y gamlas sydd ar ôl erbyn hyn.

Er bod y diwydiant a oedd yn gysylltiedig â'r gamlas wedi diflannu bron yn llwyr erbyn hyn, mae Camlas Abertawe bellach yn goridor bywyd gwyllt gwerthfawr sy'n cynnwys dŵr llonydd a choed ar hyd y glannau gyda phlanhigion daear cysylltiedig. Mae'r safle yn bwysig iawn i'r bywyd gwyllt lleol, a gallai fod yn fuddiol i rywogaethau dan warchodaeth megis llygod y dŵr, dyfrgwn a sawl rhywogaeth o ystlum.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 225)

Gwybodaeth am fynediad

Clydach
Cyfeirnod Grid SS698016
Map Explorer yr AO 165 Abertawe

Gallwch gyrraedd y gamlas ar hyd y llwybr halio o Glydach i Bontardawe.

Ceir

O Abertawe, dilynwch yr A4067 tua'r gogledd ar hyd llinell y gamlas i Glydach.

Bysus

Mae bysus rheolaidd o Abertawe i Glydach a Phontardawe.

Beicio

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 43 yn rhedeg ar hyd y llwybr halio. Mae'r llwybr hwn yn rhan o'r Lôn Geltaidd.

Close Dewis iaith