Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwarchodfa Natur Bro Tawe

Mae Gwarchodfa Natur Bro Tawe ym Mro Tawe, maestref yng ngogledd-ddwyrain Abertawe.

Mae'r warchodfa 6 hectar yn un o'r cynefinoedd gwlyptir yn unig sy'n weddill yn ardal Dinas a Sir Abertawe. Mae gwlyptiroedd ymysg y cynefinoedd naturiol sydd fwyaf dan fygythiad yn y DU. Maent yn cael eu colli oherwydd datblygiadau a diffyg rheolaeth.

Mae Bro Tawe'n gartref i amrywiaeth mawr o blanhigion ac anifeiliaid, o degeirianau i ddyfrgwn ac mae llawer ohonynt yn flaenoriaeth gadwraeth. Mae Bro Tawe'n safle amrywiol iawn gyda brith o gynefinoedd yn amrywio o gors i laswelltir corsiog, prysgwydd, glaswelltir niwtral heb ei wella a'i wella'n rhannol.

Mae Gwarchodfa Natur Bro Tawe yn agos at gorstiroedd Llansamlet, safle pwysig arall o wlyptir ar gyfer gwarchod natur.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 211)

Cyfleusterau

  • Mynediad i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio ar hyd llwybr deheuol y warchodfa

Gwybodaeth am fynediad

Llansamlet 
Cyfeirnod Grid SS688980
Map Explorer yr AO 165 Abertawe

Mae Gwarchodfa Natur Bro Tawe yn hygyrch o Heol Walters yn Llansamlet. Gallwch gyrraedd y Warchodfa o'r llwybr beicio sy'n dechrau ar ddiwedd Heol Pant-y-Blawd sy'n cysylltu â'r rhwydwaith glan afon.

Ceir

Parcio cyfyngedig ar y ffordd gerllaw.

Bysus

Gorsaf fysus agosaf yng Ngellifedw.

Beicio

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 43 yn rhedeg ar hyd yr afon i'r gorllewin o'r Warchodfa.

Close Dewis iaith