Toglo gwelededd dewislen symudol

Graig y Coed

Mae'r ardal hon yn cynnwys coetir cymunedol newydd sy'n cael ei ddatblygu o dan Brosiect Coetiroedd Gogledd Gŵyr, ynghyd â meysydd chwarae.

Mae'r Ymddiriedolaeth Natur wedi derbyn cyfrifoldeb am yr hen safle diwydiannol sydd bellach yn goetir cymunedol.

Tan yn ddiweddar, roedd y safle'n hyll, gyda thomennydd sbwriel a diffeithdra hen chwarel a gweithgareddau cloddio ar y safle. Ac yntau'n anniben ac wedi'i esgeuluso, cafodd y safle ei fandaleiddio ac roedd yn ganolbwynt ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gyda grant gan Cydcoed a gwaith caled y gymuned leol, yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Natur ac Ymddiriedolaeth Neuadd Cymuned Llanrhidian, mae'r safle wedi cael ei weddnewid. Mae'n ddiogel yn awr, gyda llwybrau gwell a 3,000 o goed wedi'u plannu'n ddiweddar gyda chymorth plant ysgol Penclawdd a Llanmorlais.

I gyd, bydd tua 10,000 o goed ychwanegol yn cael eu plannu ar y safle dros y blynyddoedd nesaf. Ceir golygfeydd gwych ar draws Moryd Llwchwr hefyd.

Uchafbwyntiau

Golygfeydd rhagorol o ehangder Moryd Burry, arfordir de-ddwyrain Sir Gâr a'r ucheldiroedd y tu hwnt. Cyfleoedd i blannu coed, bod yn warden safle neu i ofalu'n gyffredinol am y goedwig newydd.

Cyfleusterau

  • Maes parcio

Gwybodaeth am fynediad

Gall cerddwyr fynd i'r coetir cymunedol naill ai drwy'r maes parcio ger y caeau rygbi rhwng Croffty a Phenclawdd neu o ben y safle drwy faes parcio mynwent Herman.

Y Promenâd, Penclawdd SA4 3RL

Car

Parcio gerllaw.

Close Dewis iaith