Toglo gwelededd dewislen symudol

Coed Hendrefoelan

Cymysgedd o goetir llydanddail a phlanhigfa sydd ar ôl ers clirio coedwig wreiddiol y cwm rai degawdau yn ôl i adeiladu'r safle tai a phentref y myfyrwyr gerllaw.

Uchafbwyntiau

Ardaloedd eang o glychau'r gog ym mis Mai a hen bisgwydd mawr wedi'u coedlannu.

Dynodiadau

  • Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN)

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS611934
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau troed

Mae llwybrau ag arwyneb yn hanner isaf y coed.

Ceir

Mynediad oddi ar Ffordd Taliesin ger Ysgol Hendrefoelan.

Bysus

Mae'r safle bws agosaf ar yr A4118 Heol Gŵyr ger Ysgol yr Olchfa. Cerddwch i fyny Heol Dyfnant (ar ochr arall y ffordd i'r ysgol) i gyrraedd Ffordd Taliesin a'r fynedfa i'r safle.

Close Dewis iaith