Toglo gwelededd dewislen symudol

Comin Stafford

Mae'r comin hwn yn glytwaith o rostir isel a glaswelltir corsiog. Mae'r gwair ar ran o'r safle'n cael ei dorri'n rheolaidd a cheir rhai meysydd chwaraeon.

Mae'r comin oddeutu 23 hectar o faint.

Uchafbwyntiau

Ymhlith yr adar sydd wedi'u gweld ar y safle y mae'r dylluan wen, y llwydfron, y fronfraith fawr, y fronfraith, clochdar y cerrig a'r boncath.

Ieir bach yr haf/gwyfynod megis melyn y rhafnwydd/melyn y drain, gweirlöyn y glaw a'r isadain felen hyfryd.

Dynodiadau

  • Mae Comin Stafford yn Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN)

Cyfleusterau

  • Swyddfa bost a thafarn ym Mhentref Gardd Gorseinon

Gwybodaeth am fynediad

Gorseinon
Cyfeirnod Grid SS593975
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau cerdded

Mae'r rhan fwyaf o'r safle hwn yn dir mynediad agored. Nid oes unrhyw lwybrau cerdded dynodedig yn croesi'r safle.

Ceir

Nid oes cyfleusterau parcio ar y safle. Mae'r lleoedd parcio agosaf ym Mhentref Gardd Gorseinon.

Close Dewis iaith