Toglo gwelededd dewislen symudol

Blaendraeth Llwchwr

Ardal laswelltog ddymunol yw hon, gyda llawer o goed ac, fel mae'r enw yn ei awgrymu, mae'n agos at Foryd Llwchwr.

Mae'r safle'n cysylltu'n hwylus (wrth gerdded neu ar feic) â llwybr yr arfordir ag arwyneb sy'n arwain at Lanelli a'r tu hwnt gan ddilyn ymyl Moryd Llwchwr. Mae Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir tua 2 filltir ar hyd y llwybr hwn o'r parc.

Uchafbwyntiau

Golygfeydd eang a thrawiadol ar draws Moryd Llwchwr. Nifer helaeth o adar, gan gynnwys rhai rhywogaethau prin, yn enwedig yn ystod tymor mudo'r gaeaf.

Cyfleusterau

  • Maes parcio

Hygyrchedd

Mynediad i gadeiriau olwyn/pramiau

Gwybodaeth am fynediad

Map Explorer yr Arolwg Ordnans 165 Abertawe

Cerdded

Mynediad o Heol Gwynfe.

Ceir

Ceir maes parcio ar y safle sydd oddi ar Heol Gwynfe sy'n arwain o Heol Bwlch oddi ar yr A440 yng Nghasllwchwr.

Beicio

Mae'r parc tua milltir yn unig o lwybr beicio cenedlaethol 4.

Llwybrau ceffyl

Mae llwybr ceffyl yn croesi'r parc.

Close Dewis iaith