Toglo gwelededd dewislen symudol

Gerddi Clun

Mae Gerddi Clun yn cynnwys casgliadau cenedlaethol amrywiol o blanhigion mewn parcdir prydferth. Yn enwog yn rhyngwladol am ei chasgliadau ysblennydd o Rododendronau, Pieris ac Enkianthus, mae'r gerddi'n cynnig hafan o lonyddwch, plannu toreithiog a nodweddion diddorol.

Mae ein parciau arbenigol yn wirioneddol odidog, gyda phlanhigion prin blodeuog, casgliadau cenedlaethol ac arddangosfeydd blynyddol enwog. Mae'r parciau arobryn â statws baner werdd yn lloches i bobl rhag prysurdeb bywyd y ddinas. Mae'r gerddi'n wirioneddol drawiadol drwy gydol y flwyddyn.

 

Nodweddion rhagorol

  • Gardd gors
  • Coed clychau'r gog
  • Gasebo
  • Pont Japaneaidd
  • Gwelyau grug
  • Beddau cŵn bach
  • Bwthyn Llawenydd
  • Pont Eidalaidd
  • Dôl blodau gwyllt
  • Gerddi asaleas
  • Capel Clun
  • Y tŵr

Hanes

Prynodd William Graham Vivian - miliwnydd Clun- castell yn 1860 a'i ail enwi yn 'Gastell Clun' a buddsoddod amser ag arian yn hael arno i adlewyrchu ei gyfoeth. Plannwyd tair coeden bwysig ganddo ac maent i'w gweld o flaen y castell; un Wellingtonia 'Sequoidendron giganteum' a dwy Monterey Cypreswydden 'Cupressus macrocarpa', un â siâp pigfain iddi ac sydd yn un o'r rhai talaf ym Mhrydain. Etifeddwyd y stad gan ei nai Algernon, 'Yr Admiral' ym 1921, a bu'n berchen arno tan ei farwolaeth ym 1921. Ei ddylanwad ef yn bennaf sydd i'w weld ar y gerddi fel y'u gwelir heddiw.

Noddodd alldeithiau casglu planhigion tramor, ac mae llawer o rododendronau Clun yn dal i arddangos rhif eu casglwr gwreiddiol. Gellir gweld dylanwad y Llyngesydd ar y tirlunio, sy'n cynnwys Pont Japaneaidd , Twr y Llyngesydd a'r Gasebo.

Derbyniodd y Llyngesydd nifer o westeion enwog i'r castell, gan gynnwys Tywysog Cymru (yn ddiweddarach Brenin Edward yr VIII), Neville Chamberlain, Stanley Baldwin ac Adelina Patti.

Mae'r coetiroedd derw yn weddillion o Fforest Clun sef terfyn Normanaidd bwysig o'r 11fed ganrif.

Mae'r Magnolia talaf ym Mhrydain, 'Magnolia campbellii var. alba', i'w weld yma

Gwelir nifer o groesrywiau o eiddo'r Llyngesydd yn tyfu yn y gerddi. Enwodd rhai ohonynt ar Gwelir nifer o groesrywiau o eiddo'r Llyngesydd yn tyfu yn y gerddi. Enwodd rhai ohonynt ar ô lei deulu; y Gwir Anrhydeddus Graham Vivian, y Gwir Anrhydeddus Dulcie Vivian, Singleton Glas a Chastell Clun.

Cyfleusterau

  • Mae toiledau, gan gynnwys cyfleusterau i bobl anabl ar gael mewn adeilad ger y brif fynedfa. Dilynwch y prif lwybr i fyny'r llethr ac mae'r adeilad ar y dde.

Gwybodaeth am fynediad

Ni fydd y gatiau i Erddi Clun yn cael eu cloi felly gallwch gael mynediad iddynt ar unrhyw adeg.

Cerdded

Mae rhai llwybrau serth yng Ngerddi Clun sy'n gallu bod yn anodd i gadeiriau olwyn heb fodur ac i bobl â chadeiriau gwthio. Mae rhai mannau â grisiau ond nid oes unrhyw risiau ar y prif lwybr tarmac sy'n ymlwybro i fyny drwy'r parc.

Ceir

O ganol y ddinas, ewch i'r gorllewin ar hyd Heol Ystumllwynarth (A4067), trowch i'r dde wrth dafarn y Woodman ac i'r dde i mewn i'r maes parcio. Nid oes llawer o lefydd parcio a pharcio i'r anabl yn y brif fynedfa ger tafarn y Woodman ar heol y Mwmbwls. Mae mwy o barcio ar y ffordd ar gael ar ben uchaf y parc yn Rhodfa Westport, oddi ar Heol y Mayals.

Bysus

Mae safle bws gyferbyn â thafarn y Woodman. O orsaf fysus y Cwadrant, cymerwch un o'r gwasanaethau hyn: 2, 2A, 2B, 3, 3A, 14, 14A, 37. Mae croeso i goetsis a grwpiau drwy drefniant ymlaen llaw.

Côd Post - SA3 5BA

Close Dewis iaith