Toglo gwelededd dewislen symudol

Clogwyni Newton a Chlogwyni Summerland

Mae'r tir comin 35 hectar hwn ar lethr y clogwyn rhwng Bae Langland a Bae Caswell.

Ceir taith gerdded bleserus wrth ochr y clogwyn drwy'r safle sy'n cysylltu'r ddau fae. Mae cwrs Golff Bae Langland gerllaw.

Ceir bywyd gwyllt a nodweddion daearegol diddorol ar hyd y clogwyni calchfaen hyn. Mae planhigion prin megis y co-rosyn lledlwyd a'r ferywen yn tyfu yn y glaswelltir calchaidd hwn, sydd hefyd yn gynefin prin yn y DU.

Dynodiadau

  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)
  • Tir comin
  • Tir Mynediad Agored

Cyfleusterau

  • Mae caffi a bwyty ym Mae Langland
  • Caffi a lluniaeth arall
  • Maes parcio (talu ac arddangos) ym Mae Langland a Bae Caswell
  • Toiledau cyhoeddus ym Mae Caswell
  • Ffôn cyhoeddus ym Mae Caswell

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS598871
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Mynedfa: gellir cyrraedd y safle o Fae Caswell a Bae Langland

Llwybrau troed

Mae llwybr troed pleserus wrth ochr y clogwyni drwy'r safle, sy'n cysylltu Bae Caswell a Bae Langland.

Ceir

Parcio (talu ac arddangos) ym Mae Caswell a Bae Langland.

Bysus

Mae'r safleoedd bws agosaf i'r safle

  • ar ben Heol Bae Langland, tua ½ milltir (¾ km) o'r safle
  • yn yr haf yn unig, maes parcio Bae Caswell (ger y clogwyni)

Close Dewis iaith