Broughton, Hillend a Thwyni Llangynydd
Ardal helaeth o dwyni tywod ar hyd yr arfordir yw hon ac mae'n gynefin i sawl rhywogaeth warchodedig bywyd gwyllt. Mae'n agos at Draeth Llangynydd a Rhos Llangynydd sy'n safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC).
Dynodiadau
- Mae Broughton/Twyni Llangynydd yn Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC)
- Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Gŵyr
Cyfleusterau
- Ceir meysydd parcio ar safle gwersylla Hillend ac ym Mharc Carafanau Broughton - mae'r ddau yn codi tâl yn y tymor prysur
- Caffi ar safle gwersylla Hillend - oriau cyfyngedig yn y gaeaf
- Tafarn (y King's Head) yn Llangynydd
Gwybodaeth am fynediad
Cyfeirnod Grid SS410924
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr
Llwybrau cerdded
Ceir hawliau tramwy drwy'r twyni.
Ceir
Ceir meysydd parcio ar safle gwersylla Hillend ac ym Mharc Carafanau Broughton sydd y tu hwnt i Langynydd ar is-ffyrdd.
Bysus
Mae'r safle bws agosaf yn Llangynydd. Mae'r Gower Explorer yn galw bob dydd.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 15 Mai 2024