Toglo gwelededd dewislen symudol

Comin Mynydd Cadle

Mae Comin Mynydd Cadle ar gyrion trefol Penderi.

Ceir corsydd/glaswelltir corsiog yno'n bennaf, sy'n cwmpasu sawl cynefin a rhywogaeth blaenoriaeth y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth. 

Mae sawl pwll dwr bach yno ac mae sawl cwrs dwr yn rhedeg drwy'r safle. Mae'r comin drws nesaf i Feysydd Chwarae Mynydd Newydd. Mae hefyd gerllaw Canolfan Hamdden Pen-lan ac Ysgol Bryn Tawe.

Uchafbwyntiau

Golygfeydd o'r rhan uchaf i lawr i Foryd Llwchwr ac i gyfeiriad Twyni Whiteford. Cadwch lygad am adar megis yr ehedydd a chorhedydd y waun. Mae planhigion prin yma hefyd megis llafn y bladur, gwlithlys, melog y cŵn a thegeirian-y-gors deheuol.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN - Comin Mynydd Cadle)

Cyfleusterau

  • Mae Canolfan Hamdden Gymunedol Pen-lan gerllaw

Gwybodaeth am fynediad

Heol Mynydd Newydd, Pen-lan
Cyfeirnod Grid SS643970

Llwybrau troed

Mae mynediad agored ar draws y safle.

Ceir

Parcio ar y strydoedd gerllaw neu yn y Ganolfan Hamdden os ydych yn defnyddio'r cyfleusterau yno.

Bysus

Mae bysus yn aros ger y Ganolfan Hamdden.

Close Dewis iaith