Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfeydd Dŵr Lliw Isaf ac Uchaf

Mae'r cronfeydd dŵr mewn ardal â golygfeydd mynyddig syfrdanol sy'n nodweddiadol o Fawr, i'r gogledd o Abertawe.

Mae cronfeydd dwr Lliw isaf ac uchaf wedi'u hamgylchynu gan frithwaith o gynefinoedd gan gynnwys rhedyn, coetir llydanddail prysgwydd a glaswelltir asidig iseldir, sef cynefin blaenoriaeth y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth. Mae'r ddau safle'n cynnal amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion, gyda llawer ohonynt yn cael eu hystyried yn brin. Ymhlith yr adar a welwyd ar y safle mae'r hebog tramor, y cudyll coch, y gigfran, tinwen y garn, corhedydd y waun, yr ehedydd, crec yr eithin, y barcud coch a'r gylfinir.

Dynodiadau

  • Safleoedd o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 311 a 317)

Cyfleusterau

  • lliwreservoirs.com (Yn agor ffenestr newydd)
  • Maes parcio ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf (tan 6.00pm bob dydd, mae ffïoedd yn berthnasol)
  • Toiledau cyhoeddus ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf
  • Safle picnic ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf
  • Caffi/canolfan ymwelwyr ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf
  • Tafarn yn Felindre - Shepherd's Country Inn

Hygyrchedd

Llwybr yn hygyrch i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio am 4 milltir.

Gwybodaeth am fynediad

Ger Felindre, Abertawe
Cyfeirnod Grid SN653035 a SN662063
Map Explorer yr AO 165 Abertawe

Mynediad i Gronfa Ddŵr Isaf.

Llwybrau

Mae llwybrau hamdden o gwmpas y cronfeydd dŵr gan gynnwys llwybr 4 milltir ar gyfer cadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf. Mae taith gerdded boblogaidd i Gronfa Ddŵr Lliw Uchaf sy'n rhan o Lwybr Gŵyr.

Ceir

Mae maes parcio ger Cronfa Ddŵr Lliw Isaf. O Gyffordd 46 yr M4, teithiwch i'r gogledd tuag at Felindre ac yna dilynwch yr arwyddion i'r gronfa ddŵr. Does dim mynediad i gerbydau i ymwelwyr o'r gronfa ddŵr isaf i'r gronfa ddŵr uwch. Mae traffig yn gyfyngedig i staff Dŵr Cymru, preswylwyr Lliw a danfoniadau.

Bysus

Y safle bws agosaf yw safle ar gais ar waelod y rhodfa i Gronfa Ddŵr Lliw Isaf sydd oddeutu milltir o hyd.

Manylion cyswllt

Dŵr Cymru (Yn agor ffenestr newydd)

Close Dewis iaith