Toglo gwelededd dewislen symudol

Glaswelltir Bryn Lliw a Thir Comin Mynydd Lliw

Tir comin yw Mynydd Lliw. Hen domenni rwbel yw'r brif nodwedd ond maent wedi'u gorchuddio â llystyfiant.

Mae hen reilffordd yn croesi'r safle ac mae'r M4 yn rhedeg ar hyd yr ochr ddwyreiniol. Mae'r llwybr beicio'n arwain at Gomin Stafford yn y de.

Mae'r comin hwn yn rhan o ardal fwy o'r enw Glaswelltir Bryn Lliw, sydd o bwysigrwydd cadwraeth natur.

Uchafbwyntiau

Diddordeb bywyd gwyllt - cadwch lygad am adar megis yr ehedydd, bras y gors, coch y berllan, corhedydd y waun, y llinos a'r cyffylog, ieir bach yr haf megis brith y gors a'r gwibiwr llwyd. Gellir gweld planhigion megis y carwe troellog, tresgl y moch, tegeirian brych y rhos, plu'r gweunydd a helygen Mair.

Dynodiadau

  • Rhan o Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC Glaswelltir Bryn Lliw)
  • Tir Mynediad Agored

Cyfleusterau

  • Mae'r cyfleusterau agosaf ym Mhengelli - swyddfa'r post a ffôn cyhoeddus
  • Tafarnau ym Mhontlliw

Gwybodaeth am fynediad

Pengelli, Gorseinon
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau cerdded

Tir mynediad agored yw hwn, gyda llwybr beicio yn rhedeg ar hyd hen reilffordd.

Ceir

Ni chaniateir parcio ar y safle. Ym Mhengelli mae'r cyfleusterau parcio agosaf.

Bysus

Mae'r bws yn stopio ym Mhengelli.

Close Dewis iaith