Toglo gwelededd dewislen symudol

Comin Clun a Maes Mansel

Dyma ardal helaeth o dir comin (286 hectar) a groesir gan y B4436, gyda datblygiadau West Cross a Mayals ar ffin ddwyreiniol Comin Clun a phentref Murton nesaf i Faes Mansel i'r de-orllewin.

Mae'r comin yn frithwaith o rostir gwlyb a sych gyda choetir ar yr ymylau sy'n cynnwys coed brodorol yn bennaf. Mae Cwrs Golff Clun yng ngogledd-ddwyrain y comin ac mae Fferm Clun yn y gornel ogledd-ddwyreiniol, sydd hefyd ger Parc Gwledig Dyffryn Clun. Mae nant Llandeilo Ferwallt yn llifo ar hyd ymyl orllewinol y comin.

Mae'r comin a'r hawliau tramwy sy'n ei groesi yn cysylltu West Cross a Mayals â Murton, Blackhills a Dyffryn Clun. Gwyliwch rhag peli golff isel!

Uchafbwyntiau

Cadwch lygad am adar y rhostir megis yr ehedydd, y llinos a'r gïach. Gellir gweld sawl rhywogaeth gwas y neidr ac iâr fach yr haf hefyd.

Dynodiadau

  • Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC)

Cyfleusterau

  • Ceir caffi ym Mhlanhigfa Blackhills
  • Siop fach/swyddfa'r post ym Murton

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS596905
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau cerdded

Mae sawl llwybr cerdded yn croesi'r safle. Mae'r safle yn dir mynediad agored ond argymhellir bod cerddwyr yn defnyddio'r llwybrau i osgoi cael eu taro gan beli golff wrth groesi'r cwrs golff ar y comin.

Ceir

Nid oes maes parcio ar y safle.

Bysus

Ceir sawl safle bws ar y B4436 rhwng West Cross a Murton, ger Comin Clun.

Llwybrau ceffyl

Mae sawl llwybr ceffyl yn croesi'r comin.

Close Dewis iaith