Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwarchodfa Natur Leol Twyni Whiteford a Morfa Heli Llanrhidian

Mae Morfa Llanrhidian a Thwyni Whiteford yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac yn safleoedd arbennig o ran harddwch y dirwedd a'r bywyd gwyllt.

Mae Twyni Whiteford yn cael eu hystyried yn un o systemau twyni gorau Prydain ac mae cyfres ragorol o gynefinoedd twyni yno. Mae traeth Whiteford i'r dwyrain i'r Twyni, wedi'i nodi gan hen oleudy haearn bwrw adfeiliedig ar y pen gogleddol (nad yw'n eiddo i'r YG). Ceir golygfeydd ar draws y foryd i gyfeiriad traeth Pen-bre a Phorth Tywyn gyferbyn.

Morfa Llanrhidian yw un o'r enghreifftiau gorau o forfa heli ym Mhrydain ac mae'n bwysig yn rhyngwladol oherwydd y boblogaeth enfawr o adar dwr sy'n gaeafu a rhydwyr. Megir cig oen morfa heli, danteithfwyd lleol, ar Forfa Llanrhidian.

Uchafbwyntiau

Mae fflora Twyni Whiteford yn rhagori, ac yn cynnwys sawl rhywogaeth brin a lleol, gan gynnwys tegeirian-y-gors cynnar, gefell-lys y fignen (tegeirian-y fign galchog), crwynllys Cymreig cynnar.

Cadwch lygad allan am yr adar ar y forfa gan gynnwys pioden y môr, pibydd yr aber a'r cwtiad aur.

Dynodiadau

  • Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG)
  • Ardal Gwarchod Arbennig (AGA)
  • Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA)
  • RAMSAR
  • Tir mynediad agored
  • Mae Morfa Llanrhidian yn dir comin

Cyfleusterau

  • Gwylfa adar ar Dwyni Whiteford
  • Y dafarn agosaf - Britannia Inn yn Llanmadog
  • Siop gymunedol a Swyddfa Bost yn Llanmadog
  • Parcio yng nghae ffermwr yn Llanmadog

Gwybodaeth am fynediad

Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau troed

Mae llwybrau troed o gwmpas Twyni Whiteford.

Mae Morfa Llanrhidian o dan ddwr y môr ar ben llanw. Ar lanw isel, mae'r ardal gorsiog hon yn rhwyllwaith o gylïau a nentydd. Mae'r llanw cyflym a natur gorsiog y tir hwn yn golygu nad yw'n addas i gerddwyr.

Ceir

Parcio yng nghae ffermwr rhwng Llanmadog a Chwm Ivy (blwch gonestrwydd ar gyfer talu).

Bysus

Y safle bws agosaf yw Maes Llanmadog.

Close Dewis iaith