Chwilio'r wefan
English

Coed y Melin

Mae Coed y Melin yn ymestyn dros 126 hectar sy'n llydanddail yn bennaf.

Roedd y coetir hwn yn rhan o ystâd Penrhys yn wreiddiol a gellir gweld o hyd olion tirwedd y 18fed ganrif a'r coed a blannwyd ar y pryd, ynghyd â'r coetiroedd hynafol sydd wedi bod ar y safle ers blynyddoedd lawer.

Mae Coed y Melin yn Blanhigfa ar Safle Coetir Hynafol (PAWS) sy'n cynnwys coetir ynn yn bennaf gyda rhai coetiroedd derw ac ardal fach o goetir gwlyb.

Yn rhan o'r ystâd yn wreiddiol, mae'n cynnwys amrywiaeth diddorol o goed sydd wedi cael eu hychwanegu at y coed brodorol o ganlyniad i'r gwaith tirweddu. Mae'r rhain yn cynnwys rhes o bisgwydd a llannerch o goed yw. Mae'r Comisiwn Coedwigaeth wedi plannu cymysgedd o goed i wneud y dirwedd yn ddiddorol ac yn lle ardderchog i weld bywyd gwyllt, gan gynnwys: cegid y gorllewin, sbriwsen Norwy, ffynidwydd arian a ffawydd.

Mae'r fflora ar y ddaear yn amrywiol gyda fflora sy'n nodweddiadol o goed ynn yn ffynnu mewn ardaloedd nad ydynt yng nghysgod y conifferau. Ymhlith y rhywogaethau y gellir eu gweld y mae clychau'r gog, craf y gaeaf, gorthyfail, gold y gors, erwain a'r marchredyn cyffredin. Ceir ardal o gennin pedr gwyllt hefyd. Ymhlith yr anifeiliaid y gellir eu gweld y mae moch daear, llwynogod, dyfrgwn, boncathod, gweilch gleision a rhai rhywogaethau ystlumod.

Cyfleusterau

  • Maes parcio
  • Gellir cael lluniaeth gerllaw yn Reynoldston (tafarn a siop y pentref) ac Oxwich (gwesty a siop sy'n agor yn yr haf)

Dynodiadau

  • Coetir Hynafol
  • Mae'n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Gŵyr

Gwybodaeth am fynediad

Penrhys, Gŵyr
Cyfeirnod Grid SS493883 (mynedfa/maes parcio)
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau cerdded
Ceir hawliau tramwy a llwybrau hygyrch drwy'r coed.

Ceir
Dilynwch brif heol De Gŵyr (A4118) a chymerwch yr is-ffordd (serth a chul) â'r arwydd i bentref Penrhys.

Bysus
Mae'r safle bws agosaf ar Heol De Gŵyr ger Home Farm, ar ben yr is-ffordd i bentref Penrhys.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM