Toglo gwelededd dewislen symudol

Bae Bracelet

Bae Bracelet yw cartref Gorsaf Gwylwyr y Glannau a Goleudy'r Mwmbwls, gyda golygfeydd ar draws Môr Hafren i Ddyfnaint ar ddiwrnod clir.

Traeth cymysg ydyw o dywod, cerigos a phyllai trai, ac mae cyfleusterau lluniaeth rhagorol ac ardal chwarae i blant gerllaw.

Yn ogystal â meddu ar Wobr arbennig y Faner Las, mae Bae Bracelet yn safle cofrestredig o ddiddordeb daearegol arbennig ac mae'n agos i Warchodfa Natur Leol Bryn y Mwmbwls, felly mae llawer i'w wneud ar ddiwrnod mas! Mae achubwyr bywyd yn goruchwylio'r traeth yn ystod misoedd yr haf.

Uchafbwyntiau

Golygfeydd gwych o'r traeth ac o ben y clogwyn y tu ôl iddo.

Dynodiadau

  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Cyfleusterau

  • Maes parcio (talu ac arddangos)
  • Caffi/Bwyty gerllaw
  • Toiledau cyhoeddus
  • Ffôn cyhoeddus

Gwybodaeth am fynediad

Ger heol y Mwmbwls (B4433), y Mwmbwls SA3 4JT

Cerdded

Grisiau i lawr i'r traeth

Ceir

Taith ychydig o funudau o'r Mwmbwls

Bysus

First Cymru 2B o Orsaf Fysus y Cwadrant (2 yr awr Llun-Sad).

Gwaherddir cwn: Rhwng mis Mai a mis Medi

Close Dewis iaith