Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Coetir Elba

Mae Coetir Elba yn ardal fach â choed naturiol sydd wedi tyfu mewn cornel o safle cae chwaraeon Elba.

Mae'r ardal yn llawn treftadaeth ddiwylliannol Tre-gŵyr ac, ar un adeg, roedd wedi'i hamgylchynu gan waith dur enfawr Elba, a gaeodd yn y 1950au, a bu llawer o reilffyrdd yn ei chroesi. Cyn hyn, roedd y safle wedi'i haneru gan Gamlas Llewitha rhwng Penclawdd a Thre-gŵyr a gludodd lo o Garn Goch gerllaw i'r porthladd ym Mhenclawdd. Caeodd hon wrth i'r rheilffyrdd gael eu cyflwyno.

Mae'r unig ran o'r gamlas sydd yn bodoli o hyd o fewn Coetir Elba (wedi'i gwahanu â ffens er diogelwch). Roedd y coed yn y coetir yn rhan o'r llwybr halio. Caiff panel treftadaeth ei godi'n fuan.

Mae'r coed yn rhai Prydeinig naturiol, megis yr onnen, y fedwen arian, y ddraenen wen a'r gelynnen a phob blwyddyn yn ystod y gwanwyn, mae llawr y goedwig yn garped o glychau'r gog a garlleg gwyllt.

Defnyddir y goedwig bob wythnos gan yr ysgol gynradd leol i gynnal gwersi natur ac mae'r Grŵp Cyfeillion (Yn agor ffenestr newydd) lleol yn gweithio gyda'r ysgol i ddarparu mannau addas/seddi ar gyfer eu gwersi awyr agored. Maent am i'r goedwig ddatblygu'n naturiol, ond cynhelir gwaith cynnal a chadw ar y prif lwybrau pridd fel bod pobl leol ac ysgolion yn gallu eu defnyddio.

Cyfleusterau

Llwybrau pridd. Bin sbwriel wrth y fynedfa. Maes parcio, toiledau a lle chwarae i blant yng Cyfleusterau Chwaraeon Elba gerllaw.

Hygyrchedd

Gall llwybrau pridd/sglodion pren fod yn wlyb mewn rhai ardaloedd yng nghanol y gaeaf.

Gwybodaeth am fynediad

Ewch tuag at Ffordd Beck o'r cylchfan ger Tesco ar ffordd osgoi Tre-gŵyr y B4295. Mae'r fynedfa i Ganolfan Chwaraeon Elba ar y chwith. Mae maes parcio ar gael. Mae llwybrau concrit ger cyrtiau astroturf sy'n arwain at yr ysgol ac mae'r fynedfa i'r goedwig yn agos at y bin sbwriel. Mae'r prif lwybr yn arwain drwy'r goedwig ac yn cylchu'n ôl i'r ysgol i ddychwelyd i'r maes parcio.

Cyfeiriad/côd post y safle

Coetir Elba, ger Ysgol Gynradd Tre-gŵyr, Elba, Tre-gŵyr SA4

Close Dewis iaith