Toglo gwelededd dewislen symudol

Ashlands/Bandfield

Dyma ddau safle, mae Ashlands a Bandfield gyferbyn â'i gilydd. Ceir meysydd pêl-droed a chaeau chwarae.

Mae canolfan gymunedol gymharol fodern ar y safle sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth gan grwpiau cymunedol lleol ac ystafelloedd newid ar gyfer y ddau safle yn y cyfleuster hwn.

Ceir ardal hyfryd o goetir ar ran Bandfield y safle sy'n ffinio Mynydd Cilfái. Mae Ashlands yn ffinio Ardal o Gadwraeth Arbennig Cors Crymlyn, Coetir Ashlands ac mae Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN) Camlas Tennant ger y parc.

Cyfleusterau

  • 2 gae pêl-droed
  • 2 gae pêl-droed bach
  • Maes parcio

Gwybodaeth am fynediad

Cyffordd Heol Cwm Nedd a Theras y Wern, Port Tennant, Abertawe SA1 8NJ

Beicio

Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 gerllaw'r safle hwn.

Close Dewis iaith