Gerddi Southend
Parc cymunedol gwych yn y Mwmbwls. Eisteddwch yn ôl a mwynhau'r olygfa dros Fae Abertawe wrth i'r plant gael hwyl ar y cyfleusterau chwarae gwych


Cyfleusterau
- Man chwarae i blant
- Cyrtiau tenis
- Man boules
- Byrddau picnic
- Clwb bowlio a phafiliwn
- Golff gwallgof
Amserau agor 2022
Yn gweithredu bob penwythnos rhwng 8 Ebrill a 4 Medi, ac ar agor yn ddyddiol yn ystod gwyliau'r ysgol;
- Yr haf: dydd Gwener 15 Gorffennaf - dydd Sul 4 Medi
- 11am - 5pm
Prisiau
- Safonol - £3.50
- Consesiwn (dan 16 oed, myfyrwyr a'r henoed) - £3.00
- PTL £2.50
- Tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) - £10
Mae'r ddau safle'n gweithredu yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac mae'r mesurau priodol ar waith.
Uchafbwyntiau
Digon o weithgareddau i'r teulu cyfan ac yn agos i'r holl amwynderau lleol. Mae'r parc yn agos at y traeth ac mae golygfeydd godidog dros y bae.
Gwybodaeth am fynediad
Mynediad hawdd i gerddwyr a chadeiriau olwyn/phramiau o Cornwall Place, yn union gerllaw Heol y Mwmbwls.
Cyfarwyddiadau
Wrth fynd tuag at y Mwmbwls ar Heol y Mwmbwls, ewch trwy bentref y Mwmbwls. Mae'r gerddi ar y chwith, gyferbyn â Lôn y Pentref.
Côd post - SA3 5TN
I gael rhagor o wybodaeth am Gerddi Southend: outdoorattractions@swansea.gov.uk