Toglo gwelededd dewislen symudol

Coed y Parc

Coetir poblogaidd yw Coed y Parc (164 hectar) yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr.

Mae'n goedwig o goed derw, ynn a chonifferaidd ysblennydd yn eu llawn dwf ac yn gartref i'r boda, cnocell y coed, delor y cnau, yr ystlum pedol mwyaf a lleiaf a chyfoeth o fywyd gwyllt arall.

Mae sawl safle archeolegol gwerthfawr yma hefyd sy'n rhychwantu 14,000 o flynyddoedd. Mae'r safle wedi'i ddynodi'n SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig), ac mae'r coed ynn o bwysigrwydd Ewropeaidd.

Dynodiadau

  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Cyfleusterau

  • Maes parcio'r safle
  • Mae'r cyfleusterau agosaf yn Parkmill, tua milltir o faes parcio'r safle a llai na hanner milltir o fynedfa'r safle
  • Canolfan Treftadaeth Gŵyr, Siop a chaffi Shepherds

Gwybodaeth am fynediad

Parkmill, Gŵyr
Cyfeirnod grid SS538897 (maes parcio), SS543893 (mynedfa)
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau cerdded

Mae Coed y Parc yn dir mynediad agored. Mae sawl hawl tramwyo ar hyd y safle lle ceir arwyddion.

Ceir

Ar ffordd fach gan ddilyn arwyddion Parc le Breos, oddi ar brif Heol Gŵyr (yr A41180).

Bysus

Mae bysus Gower Explorer yn rhedeg yn rheolaidd i Parkmill. Dewch oddi ar y bws ger siop Shepherds gerllaw Canolfan Treftadaeth Gŵyr.

Close Dewis iaith