Toglo gwelededd dewislen symudol

Comin Pengwern a Chomin Fairwood

Mae Pengwern a Fairwood yn ddwy ardal fawr o dir comin nesaf at ei gilydd (cyfanswm o 157 hectar a 462ha yn eu tro) sy'n cynnwys glaswelltir rhostirol llaith, glaswelltir corsiog a rhedyn a phrysgwydd ar y tir uchel.

Mae Comin Fairwood yn amgylchynu Maes Awyr Abertawe. Nant goediog yn croesi Comin Pengwern. Mae'r B4271 yn hollti'r safle ac mae'r A4110 hefyd yn croesi Comin Fairwood. Mae Coed y Prior a'r Ddôl, safle a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, ger ffin ogleddol Comin Fairwood.

Mae llawer o fywyd gwyllt diddorol yn Fairwood gan gynnwys rhywogaethau megis tresgl y moch, melog y cwn a charpiog y gors, mochyn daear, brogaod, gïach, ehedydd, corhedydd y waun, brych y coed, bras melyn a'r llinos.

Dynodiadau

  • Tir comin
  • Tir mynediad agored
  • Mae Comin Fairwood yn Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCN)
  • Rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig Cominau Gŵyr (ACA)
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA)

Mae'r tiroedd comin yn rhan o'r canlynol:

  • Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Gŵyr (AoHNE)
  • Tirwedd Gorllewin Gwyr sydd wedi'i chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (CCGC/CADW: Henebion Hanesyddol Cymru/ICOMOS UK 1998, 53-56)

Cyfleusterau

  • Garej sy'n gwerthu dewis bach o luniaeth yng Nghilybion
  • Caffi ym maes awyr Fairwood

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS540920 (Pengwern) ac SS575928 (Fairwood)
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau troed

Mae'r ddwy ardal o dir comin yn dir mynediad agored. Mae llwybrau troed yn croesi'r ddau gomin - gweler Map Explorer yr Arolwg Ordnans.

Ceir

Nid oes parcio ar y safle.

Bysus

Mae safle bws ar y B4271 ger ffordd fach sy'n mynd i Lunnon. Mae bysus yn teithio'n rheolaidd ar hyd y ddwy brif ffordd sy'n croesi'r comin a bydd y rhan fwyaf yn aros ar gais.

Close Dewis iaith