Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwarchodfa Natur Leol Rhos Cadle

Mae Gwarchodfa Natur Leol Rhos Cadle yn un o'r enghreifftiau gorau o rostir trefol yn y wlad.

Mae rhostiroedd yn adnodd sy'n dirywio yn y DU ac maent yn flaenoriaeth ar gyfer cadwraeth. Yn ogystal â rhos wlyb, mae gan y warchodfa 11.5 hectar ardaloedd o laswelltir, pyllau, tir prysg a choetir sydd â chyfoeth o rywogaethau. 

Mae'n darparu cartref neu gynefin i amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys ieir bach yr haf a gweision y neidr, llyffantod, ehedyddion, grug, tegeirianau deheuol y gors a charwe sidellog.

Mae cytref sylweddol o ffacbysen y coed. Gellir dod o hyd i hon ar ddau safle'n unig yng Ngorllewin Morgannwg. Cofnodwyd cyfanswm o 31 rhywogaeth mewn arolwg cynhwysfawr o adar ym 1995.

Roedd ehedyddion, clochdarod y cerrig, pibyddion y coed a llwydfronnau ymhlith y rhai a gofnodwyd yn ystod y tymor bridio. Mae arolwg o anifeiliaid di-asgwrn cefn yn cael ei baratoi. Y rhywogaeth fwyaf nodedig a gofnodwyd hyd yn hyn yw brith y gors.

Close Dewis iaith