Toglo gwelededd dewislen symudol

Comin Barlands

Comin bach (14.6 hectar) llonydd gyda llwybrau cerdded yn arwain at Gomin Fairwood a Chomin Clun. Mae'n agos at Gomin Barlands ar y B4436.

Mae'r rhan fwyaf o'r safle wedi'i orchuddio â rhedyn, gyda rhai coetiroedd deniadol a rhostir o gwmpas yr ymylon.

Dynodiadau

  • Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC)
  • Tir Mynediad Agored
  • Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA Daearegol)
  • Yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Gŵyr

Cyfleusterau

  • Maes parcio
  • Mae'r siopau agosaf yn Llandeilo Ferwallt neu Kittle
  • Tafarnau yn Llandeilo Ferwallt (oddeutu hanner milltir)

Gwybodaeth am fynediad

Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau cerdded

Mae llwybrau cerdded yn croesi'r safle, gan gynnwys un sy'n arwain at Gomin Clun ac un arall sy'n arwain at Gomin Fairwood.

Ceir

Maes parcio oddi ar y B4436 rhwng Kittle a Llandeilo Ferwallt.

Bysus

Mae bysus yn teithio ar hyd y B4436. Mae'r safleoedd bysus swyddogol agosaf yn Llandeilo Ferwallt a Kittle.

Close Dewis iaith