Toglo gwelededd dewislen symudol

Cors Llan-y-tair-mair (Knelston)

Mae Cors Llan-y-tair-mair yn ardal bwysig o borfeydd hesg o ansawdd uchel, wedi'i hamgylchynu gan dir âr a glaswellt wedi'i wella.

Mae'r safle yn agos at ddau goetir sy'n safleoedd o bwysigrwydd cadwraeth natur ac mae'n gynefin pwysig nifer o infertebratau ac adar, gan gynnwys y llinos.

Mae Coed Berry (a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru (Yn agor ffenestr newydd)) yn daith gerdded fer i'r de.

Dynodiadau

  • Safle o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SINC 364)

Cyfleusterau

  • Gorsaf betrol a siop yn Llan-y-tair-mair
  • Tafarn (King Arthur) yn Reynoldston

Gwybodaeth am fynediad

Llan-y-tair-mair, Gŵyr
Cyfeirnod Grid SS475887
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr

Llwybrau cerdded

Ceir llwybr cerdded, oddi ar yr A4118, Heol De Gŵyr, gyferbyn â'r fynedfa i Stout Hall, sy'n rhedeg drwy ran ddwyreiniol y safle. Mae'r llwybr cerdded hwn hefyd yn cysylltu'r safle â Gwarchodfa Ymddiriedolaeth Natur Coed Berry.

Bysus

Mae'r Gower Explorer yn teithio'n rheolaidd ar hyd Heol De Gŵyr. Ceir safle bws wrth y fynedfa i Stout Hall.

Close Dewis iaith