Cefn Bryn
Mae Cefn Bryn yn grib o dir comin, pum milltir o hyd, a adnabyddir yn lleol fel asgwrn cefn Gŵyr. Un o brif atyniadau'r Bryn yw heneb Neolithig fawr o'r enw Maen Ceti, nid nepell o ben y crib.
Gellir gweld tair carnedd gladdu o'r Oes Efydd i'r gogledd-orllewin o Faen Ceti hefyd.
Mae da byw'r cominwyr, gan gynnwys defaid, gwartheg a merlod, yn pori ar Gefn Bryn ac yn aml gellir eu gweld yn crwydro ar yr heol sy'n ei groesi. Mae'r da byw yn rhan hanfodol o reoli'r tir hwn sy'n safle o bwysigrwydd rhyngwladol ar gyfer cadwraeth natur. Mae rheoli gan y cominwyr dros y canrifoedd wedi creu brithwaith cyfoethog o gynefinoedd a bywyd gwyllt sy'n byw ynddynt.
Mae'r safle hwn, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Natur, ger yr heol sy'n croesi'r Bryn. Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn berchen ar ddarn bach o'r comin ger Penmaen.
Uchafbwyntiau
Y bywyd gwyllt, y golygfeydd a nodweddion archeolegol y safle hwn yw prif atyniadau'r ardal hon. Gellir gweld nifer o rywogaethau gwarchodedig a phrin ar y comin megis iâr fach yr haf brith y gors, yr ehedydd a'r ysgyfarnog frown.
Dynodiadau
- Tir Comin
- Tir Mynediad Agored
- Ardal Cadwraeth Arbennig (SAC)
- Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI)
- Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SINC)
- Ceir tair heneb gofrestredig (SAM) gan gynnwys Maen Ceti, Crug Crwn a Charnedd Gron Pen-y-crug i'r gorllewin o Faen Ceti
Mae'r comin yn rhan o
- Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AoHNE) Gŵyr
- Tirwedd Gorllewin Gŵyr sydd wedi'i chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru (CCGC/CADW: Henebion Cymru/ICOMOS UK 1998, 53-56)
Cyfleusterau
- Tafarn y King Arthur yn Reynoldston
- Ffôn cyhoeddus ger Siop Reynoldston
- Siop a swyddfa'r post Reynoldston
- Garej Cilybion (siop fach)
- Siop a chaffi Nicholaston Farm (holwch am yr amserau agor)
Gwybodaeth am fynediad
Cyfeirnod Grid SS500905
Map Explorer yr Arolwg Ordnans 164 Gŵyr
Llwybrau cerdded
Mae nifer o lwybrau cerdded yn croesi'r safle.
Ceir
Nid oes maes parcio swyddogol er bod cilfan bach garw ar ben y Bryn a cheir digon o leoedd parcio yn y pentref o gwmpas Cefn Bryn.
Bysus
Mae bws y Gower Explorer yn stopio yng Nghilybion, Reynoldston a Phenmaen sydd i gyd yn hwylus ar gyfer Cefn Bryn.
Llwybrau ceffyl
Mae llwybr ceffyl o Benmaen yn rhedeg ar hyd Cefn Bryn i Hillend.