Toglo gwelededd dewislen symudol

Coedwig Penllergaer

Mae Coedwig Penllergaer, sy'n eiddo i Gomisiwn Coedwigaeth Cymru, yn ardal gymharol fawr (tua 193 hectar) o goetir, yr ystyrir ei bod o werth gymunedol sylweddol.

Mae'r safle'n cynnwys coetir conifferaidd yn bennaf gyda dwy ardal fach o goetir llydanddail lled-naturiol (sy'n mesur oddeutu 1.73 ha) yn rhannau mwyaf gogleddol y safle.

Mae'r coetir yn cael ei adlewyrchu i'r de o draffordd yr M4 gan dirwedd ddeniadol hen ystâd Penllergaer, Coed Cwm Penllergaer.

Dynodiadau

  • Safle o Bwys Cadwraeth Natur (SBCN 117, Coedwig Penllergaer)

Cyfleusterau

  • Parcio
  • Llwybrau
  • Mae caffi a siop gerllaw (yng ngorsaf wasanaethau'r M4)

Gwybodaeth am fynediad

Cyfeirnod Grid SS627005 (canolfan y safle), SS621996 (prif fynediad/maes parcio'r safle)
Map Explorer yr AO 165 Abertawe
Ychydig i'r gogledd o Gyffordd 47 yr M4 ger gorsaf wasanaethau'r draffordd

Llwybrau

Mae llwybrau o gwmpas y safle.

Close Dewis iaith