Toglo gwelededd dewislen symudol

Preswylwyr yn symud i mewn i fflatiau newydd Bae Copr

Gan fod y gwaith adeiladu bellach wedi'i gwblhau, mae llawer o breswylwyr eisoes wedi dechrau symud i mewn i gyfadeilad o fflatiau newydd yng nghanol dinas Abertawe.

Copr Bay apartments

Copr Bay apartments

Mae'r bloc o 33 o fflatiau sy'n cael ei redeg gan Pobl Group yn llunio rhan o ardal Bae Copr gwerth £135m a ddatblygwyd gan Gyngor Abertawe.

Mae'r fflatiau ar ochr canol y ddinas i'r bont newydd dros Oystermouth Road yn edrych dros Arena Abertawe a'r parc arfordirol 1.1 erw. Mae gan rai o'r fflatiau olygfa o Fae Abertawe a'r arfordir.

Mae ardal Bae Copr yn cael ei rheoli gan RivingtonHark a'i hadeiladu gan Buckingham Group Contracting.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Bydd y fflatiau hyn yn creu mwy o gyfleoedd byw fforddiadwy yng nghanol y ddinas, gan gyfuno â'r arena a'r parc arfordirol i annog mwy o ymwelwyr. Mae hyn yn bwysig gan y bydd yn helpu i greu mwy o wariant mewn siopau a busnesau eraill yng nghanol y ddinas drwy gefnogi masnachwyr yno.

"Bydd y fflatiau newydd o ansawdd uchel ynghyd â chynlluniau preswyl eraill yng nghanol y ddinas a thu hwnt yn gwneud gwahaniaeth mawr i ansawdd byw llawer o bobl."

 Bydd yr holl fflatiau ym Mae Copr yn gartrefi fforddiadwy, ar gyfer y rheini sy'n gweithio yng nghanol dinas Abertawe, yn enwedig gweithwyr allweddol. Bydd y cartrefi hyn a ariennir gan Pobl Group a Llywodraeth Cymru yn cynnwys 13 o fflatiau un ystafell wely i hyd at ddau berson ac 20 o fflatiau dwy ystafell wely i hyd at dri pherson.

Meddai Amanda Davies, Prif Weithredwr Pobl Group, "Mae datblygiad Bae Copr yn ychwanegiad pwysig i'r ddinas sydd eisoes yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe i ddarparu cartrefi fforddiadwy o ansawdd y mae galw mawr amdanynt ar gyfer y rheini sydd am fyw a gweithio yng nghanol y ddinas, gan helpu'r cyngor yn ei strategaeth adfywio ehangach ar gyfer y ddinas."

Bydd nodweddion eraill Bae Copr, gan gynnwys y maes parcio newydd y tu ôl i'r fflatiau, yn ogystal â'r unedau manwerthu ar Cupid Way ar gyfer busnesau bwyd a diod, yn cael eu gorffen yn hwyrach eleni.