Toglo gwelededd dewislen symudol

Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu - 2 Mai 2024

Caiff comisiynwyr heddlu a throseddu (CHTh) eu hethol gennych chi i oruchwylio sut y delir â throsedd yn ardal eich heddlu chi (De Cymru). Nod y comisiynwyr yw lleihau trosedd ac i sicrhau bod eich heddlu chi yn effeithiol.

Cofiwch, bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio yn yr etholiad hwn. Rhagor o wybodaeth: Mae angen ID ffotograffig er mwyn pleidleisio 

Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot yw Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar gyfer yr etholiadau hyn, ac mae gwybodaeth i'w chanfod ar ei gwefan.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno sefyll yn yr etholiad fan hyn.

Pwy sy'n sefyll yn yr etholiad?

Bydd manylion am ymgeiswyr yr etholiad hwn ar gael ar wefan CSP Dewis FyNghHTh ar ôl 5 Ebrill:

www.dewisfynghhth.org.uk

Rhif ffôn: 0300 1311323

Sut ydw i'n pleidleisio yn etholiad CSP?

Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru ar gyfer pleidleisio, gwnewch gais am bleidlais drwy'r post neu bleidlais drwy ddirprwy - gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio, a gofynion ID Pleidleisiwyr Newydd - abertawe.gov.uk/IDBleidleisio

Ble mae fy ngorsaf bleidleisio?

Bydd yr orsaf bleidleisio ddynodedig yn cael ei nodi ar eich cerdyn pleidleisio neu fel arall gallwch ddefnyddio ein chwiliad côd post.

Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy

Byddwch yn ymwybodol o newidiadau sydd bellach ar waith os ydych yn ystyried gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu os ydych yn ystyried penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan (a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy).

Sut ydw i'n pleidleisio?

Yn y DU, gallwch fwrw pleidlais mewn tair ffordd wahanol.
Close Dewis iaith