Toglo gwelededd dewislen symudol

Siarter traeth yn dangos bod gweithgareddau'n cael eu cynnal i safonau uchel

Lansiwyd menter newydd fel bod pobl yn gwybod bod gan weithredwyr hamdden sy'n defnyddio traeth ym mhenrhyn Gŵyr y sgiliau a'r profiad i ddarparu gweithgareddau diogel a hwyl o'r safon uchaf.

Caswell Bay Charter launch

Caswell Bay Charter launch

Mae Cyngor Abertawe wedi ymuno â'r RNLI a Ffederasiwn Syrffio Cymru i lansio Siarter Gweithredwyr Traeth Caswell.

Mae'n ceisio sicrhau defnydd diogel a chynaliadwy o un o draethau mwyaf poblogaidd penrhyn Gŵyr ar gyfer gweithgareddau wrth fod yn ystyriol o'r miloedd ar filoedd o bobl sy'n defnyddio'r traeth yn achlysurol bob blwyddyn.

Mae'r aelodau sefydlu yn cynnwys Surfability UK CIC, Ysgol Syrffio Progress, Academi Syrffio Gŵyr, Clwb Achubwyr Bywyd y Mwmbwls a Chanolfannau Gweithgareddau Gŵyr.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, Robert Francis-Davies, "Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu dod at ein gilydd fel partneriaeth i lansio'r siarter hon a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan.

"Mae'r siarter hon yn rhoi gwybod i bobl eu bod yn defnyddio gweithredwr lleol awdurdodedig gyda'r cymwysterau a'r profiad i ddarparu gweithgareddau diogel wrth fod yn ystyriol o'r amgylchedd a phobl eraill sy'n defnyddio'r traeth."

Close Dewis iaith