Toglo gwelededd dewislen symudol

Cefnogaeth yn dilyn ffrwydrad nwy Treforys

Mae'r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â'i bartneriaid i gefnogi preswylwyr yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad nwy yn Nhreforys ddydd Llun, 13 Mawrth 2023.

Rydym yn deall pa mor anodd yw'r sefyllfa i breswylwyr sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi.

Mawrth 2024

Hoffem roi'r diweddaraf i breswylwyr am y cynnydd diweddaraf ynghylch ymdrin â'r tŷ a ddinistriwyd yn y ffrwydrad nwy y llynedd.

Hoffem fynegi ein cydymdeimlad eto i deulu Mr Davies ar yr adeg anodd hon ac i'r holl bobl y mae'r trychineb wedi effeithio arnynt. Bydd y cyngor yn parhau i gefnogi preswylwyr mewn unrhyw ffordd y gallwn.

Fel deiliaid tai yr effeithiwyd arnynt gan y trychineb, byddwch yn gwybod mai yswirwyr yr aelwyd sy'n llwyr gyfrifol am wneud trefniadau i ymdrin â'r eiddo a ddymchwelwyd yn y ffrwydrad.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r cyngor wedi bod mewn cysylltiad cyson â'r yswirwyr, ac rydym wedi cael gwybod ganddynt yn awr fod amserlen waith ar gyfer dymchwel a chlirio'r safle bellach wedi'i drefnu.  Mae hwn yn gam pwysig ac mae'r yswirwyr yn dal i orffen eu hamserlenni ar gyfer y gwaith, ac y nhw'n unig sy'n gyfrifol am hyn hefyd.

Mae'r yswirwyr yn gwybod bod y cyngor wrth law i ddarparu rhagor o gyngor neu gymorth ac rydym yn awyddus i weld y gwaith wedi'i gwblhau er lles y gymuned gyfan.

Mae angen i'r ffens derfyn rydym wedi'i rhoi o gwmpas y safle aros yn ei lle nes bod gwaith yr yswirwyr ar y safle wedi'i orffen.

Mae cefnogaeth iechyd meddwl a lles yn parhau i fod ar gael i breswylwyr ac i'r rheini y mae digwyddiad trasig y llynedd wedi effeithio arnynt. Mae sesiynau galw heibio a gynhelir gan Jac Lewis Foundation ar gael bob dydd Gwener rhwng 10.00am a 3.00pm yn stadiwm Swansea.com neu gallwch ffonio'r sefydliad yn uniongyrchol ar 03301 336510 am gefnogaeth.

 

Ffyrdd a Llwybrau troed

Mae pob ffordd ar agor yn llawn.

Mae rhai cyfyngiadau o hyd ar y troedffyrdd ar ochr ogleddol Clydach Road.

Wales & West Utilities

Mae'r holl waith nwy wedi'i gwblhau. Bydd gwaith ychwanegol yn digwydd i ailgysylltu'r eiddo gwag pan fydd pobl yn byw ynddynt eto.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gwaith nwy, cysylltwch â Wales & West Utilities yma: 0800 912 2999 neu drwy e-bostio enquiries@wwutilities.co.uk  

Cefnogaeth gan ein Tîm Rheoli Adeiladu

Mae pob eiddo wedi'i ddiogelu ac mae ein tîm rheoli adeiladu wrth law i ddarparu cyngor a chefnogaeth i berchnogion eiddo yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad. Rydym wedi ysgrifennu at berchnogion yn tynnu sylw at y ffyrdd y gall ein tîm helpu i sicrhau bod atgyweiriadau i'w cartrefi yn bodloni safonau rheoliadau adeiladu.

Mae croeso i unrhyw breswylydd yr effeithiwyd arno gysylltu ag aelod o'r tîm i gael rhagor o gyngor a gwybodaeth:

Cysylltiadau defnyddiol

Aelodau ward

Y Cyng. Rob Stewart
Ffôn:  01792 549417
Ffôn symudol:  07717 840837
E-bost: cllr.rob.stewart@abertawe.gov.uk
Twitter: twitter.com/Cllr_robstewart

Y Cyng. Andrea Lewis
Ffôn: 07584 670061
E-bost: cllr.andrea.lewis@abertawe.gov.uk

Y Cyng. Yvonne Jardine
Ffôn: 01792 814894
E-bost: cllr.yvonne.jardine@abertawe.gov.uk

Y Cyng. Robert Francis-Davies
Ffôn: 01792 427189
Ffôn symudol:  07812 635401
E-bost:  cllr.robert.davies@abertawe.gov.uk

Y Cyng. Ceri Evans
Ffôn symudol: 07971 485688
E-bost: cllr.ceri.evans@abertawe.gov.uk

Cydlynydd Ardaloedd Lleol

Byron Measday - Cydlynydd Ardaloedd Lleol Treforys
07900 702656
byron.measday@abertawe.gov.uk

Uned Cefnogi Cymdogaethau - ar gyfer materion sy'n ymwneud â thai

  • 01792 648507 (24/7)

Y Grid Cenedlaethol - Trydan

0800 096 3080 (y tu allan i oriau)

Y rhif argyfwng bob amser yw 105

Llinell Argyfwng Nwy Cenedlaethol

0800 111 999 -  24 / 7

Rhoi gwybod am arogl nwy - bydd arbenigwr yn bresennol o fewn awr i gynnal archwiliadau diogelwch niferus. 

Yr wybodaeth ddiweddaraf ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol

Facebook Cyngor Abertawe - www.facebook.com/cyngorabertawe1               

Twitter Cyngor Abertawe - Cyngor Abertawe (@CyngorAbertawe) / Twitter

Cefnogaeth gymunedol a chynigion o gymorth

Mae sefydliad Jac Lewis yn cynnig darparu mynediad cyflym at gwnsela i blant ac oedolion yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad. Llenwch y ffurflen atgyfeirio sydd ar dudalen flaen eu gwefan: https://jaclewisfoundation.co.uk, neu ffoniwch 07368 828515.

Cymuned yn cael ei chanmol am ei hymateb i'r ffrwydrad yn Nhreforys

Mae cymunedau yn y ddinas wedi cael eu canmol am y ffordd y maent wedi dod ynghyd i helpu'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad nwy yn Clydach Road, Treforys, bythefnos yn ôl.

Apêl yn cael ei lansio i gefnogi aelwydydd yn dilyn ffrwydrad yn Nhreforys

Mae apêl frys wedi cael ei lansio ar gyfer aelwydydd yr effeithiwyd arnynt gan y ffrwydrad trychinebus yn Nhreforys ddydd Llun.

Canmoliaeth wrth i'r gymuned ddod ynghyd ar ôl y ffrwydrad nwy yn Nhreforys

Mae'r gwasanaethau brys, staff Cyngor Abertawe, preswylwyr a'r gymuned ehangach wedi cael eu canmol am y gefnogaeth ddigynsail y maent wedi'i rhoi i'r rheini y mae'r ffrwydrad nwy yn Nhreforys wedi effeithio arnynt.
Close Dewis iaith