Chwilio'r wefan
English
Pencil in a box

Ceisiadau priffyrdd a thrwyddedau

Gwnewch gais am drwyddedau priffordd a stryd, gan gynnwys sgipiau, hysbysfyrddau, adeiladau gordo a chaffis palmant.

Gallwch wneud cais am nifer o hawlenni a thrwyddedau naill ai drwy'r post neu ar-lein.

Mae'r ffurflenni hyn ar gael i'w lawrlwytho, i'w hargraffu a'u cyflwyno drwy'r post. Gweler y ffurflenni unigol ar gyfer manylion cyswllt.

  1. PDF Document Section_171- (PDF, 159KB)Yn agor mewn ffenest newydd
  2. PDF Document Streetworks_Application_2015 (PDF, 282KB)Yn agor mewn ffenest newydd
  3. PDF Document Traffic_Regulation_Order_2014 (PDF, 151KB)Yn agor mewn ffenest newydd
  4. PDF Document PORTABLE_TRAFFIC_SIGNAL (PDF, 136KB)Yn agor mewn ffenest newydd

Mae'r ffurflenni hyn ar gael i'w cyflwyno ar-lein. Gellir gwneud taliadau ar-lein hefyd. Yn ogystal, mae fersiynau y gellir eu lawrlwytho o'r ffurflenni ar gael os byddai'n well gennych wneud cais drwy'r post.

Caniatâd i osod sgaffaldiau / hysbysfyrddau / ffensys ar briffordd

Os ydych yn bwriadu gosod sgaffaldau, hysbysfyrddau neu ffensys ar unrhyw ran o briffordd gyhoeddus yn Abertawe, bydd angen trwydded arnoch gennym.

Caniatâd i osod Fframiau A/byrddau hysbysebu/arwyddion ar y briffordd

Os ydych am osod fframiau A, byrddau hysbysebu neu arwyddion ar y briffordd, bydd angen hawlen arnoch gennym.

Hawlen bargodi dros dro

Dylech gyflwyno cais am hawlen i ni os ydych am ddefnyddio craen, lifft siswrn, craen fasged neu rywbeth tebyg, ar neu dros briffordd gyhoeddus.

Ceisiadau am hawlen sgip

Mae'n rhaid gwneud cais am hawlen er mwyn gosod sgip ar y briffordd. Dylid gwneud hyn o leiaf 24 awr cyn eich bod yn bwriadu ei osod ar y briffordd.

In partnership with EUGO

Trwydded caffi palmant

Bydd angen trwydded arnoch os hoffech roi byrddau, cadeiriau ac ymbarelau ar lwybrau troed a mannau i gerddwyr i fwyta bwyd ac/neu yfed diodydd.

Gwaith adeiladu neu addasiadau sy'n effeithio ar y briffordd

Os rydych eisiau adeiladu neu addasu'ch eiddo mewn modd a fydd yn peri i'r gwaith estyn allan dros y briffordd neu orgyffwrdd â hi, bydd yn rhaid i chi geisio caniatâd gennym.

Ffurflen gais am groesiad i gerbydau

Mannau croesi i gerbydau neu gyrbau isel yw'r cerrig cwrbyn isel sy'n galluogi cerbydau i gael mynediad i'w rhodfeydd a mynedfeydd eraill i gartrefi.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM