
Cyrbau isel
Cerrig cwrbyn is sy'n caniatáu i gerbydau gael mynediad i'w dreif a ffyrdd mynediad eraill i dai yw cyrbau isel neu groesiad cerbydau.
Efallai bydd angen caniatâd cynllunio os yw'r groesfan arfaethedig ar ffordd ddosbarthedig (Ffyrdd A, B neu C/Prif Ffyrdd) a/neu os ydych yn bwriadu adeiladu rhodfa neu ardal barcio yn eich eiddo. Cysylltwch â'r Adran Gynllunio os yw hyn yn berthnasol cyn cyflwyno cais am groesfan i gerbydau.
Sylwer, rhaid cael ardal barcio 5 metr o ddyfnder x 2.4 metr o led, neu 8 metr o led x 2.4 metr o led os ydych yn parcio'n baralel i'r eiddo. Ni ddylai eich cerbyd fod ar y briffordd pan fydd wedi'i barcio. Bydd ceisiadau nad ydynt yn bodloni'r gofynion hyn yn cael eu gwrthod.
Unwaith i ni dderbyn eich cais bydd arolygwr yn ymweld â'r safle. Caiff caniatâd ffurfiol a dyfynbris sefydlog eu hanfon ymlaen atoch. Rydym yn bwriadu gwneud hyn o fewn 8 wythnos, ond gall gymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur.
Bydd gwaith adeiladu'r croesiad fel arfer yn cael ei gwblhau o fewn wyth wythnos i dderbyn y taliad (a wnaed ymlaen llaw) ar gyfer cost llawn y gwaith.
Sylwer, nad yw'r cyngor yn caniatáu adeiladu mannau croesi gan gontractwyr preifat nac unigolion.
Pa waith fydd yn cael ei wneud
Pan fyddwn yn creu croesiad byddwn yn
- gostwng y cwrbyn o flaen eich dreif.
- symud neu'n diogelu celfi'r briffordd, pibellau a cheblau
- cryfhau'r llwybr troed a'r ymyl laswellt bresennol rhwng ffin yr eiddo ac ymyl y ffordd
- ailwynebu neu ail-osod y ffordd yn ôl yr angen.
Beth yw manteision gwneud cais am groesiad i gerbydau?
- Lleihau tagfeydd ar y ffordd.
- Gwella diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd eraill a cherddwyr.
- Llai o risg o ddifrod i'ch cerbyd a phremiwm yswiriant llai o bosib.
- Llai o ddifrod i balmentydd ac ymylon glaswellt
- Cynnydd posib yng ngwerth eich eiddo o ganlyniad i gyfleuster parcio oddi ar y ffordd.
Cwestiynau cyffredin am gyrbau isel
Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am gyrbau isel.
Ffurflen gais am groesiad i gerbydau
Cerrig cwrbyn is sy'n caniatau i gerbydau gael mynediad i'w dreif a ffyrdd mynediad i'w dreif a ffyrdd mynediad eraill i dai yw cyrbau isel neu groesiad cerbydau.