Toglo gwelededd dewislen symudol

Apêl i sefydliadau'r ddinas - llofnodwch y siarter

Mae Cyngor Abertawe'n annog sefydliadau a busnesau o gwmpas y ddinas i groesawu Siarter Teithio Llesol newydd Bae Abertawe.

Healthy Travel Charter Supporters

Healthy Travel Charter Supporters

Y cyngor a sefydliadau blaenllaw eraill oedd y rhai cyntaf i lofnodi'r siarter yn ddiweddar.

Roeddent yn cynnwys Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, y DVLA, Coleg Gŵyr Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae'r llofnodwyr yn addo rhoi cyfleoedd i staff ac ymwelwyr deithio i'w safleoedd mewn ffordd gynaliadwy.

Mae gan y cyngor, er enghraifft, tua 60 o gerbydau trydan yn ei gerbydlu eisoes. Bydd 200-300 arall yn cael eu cyflwyno yn yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae prosiectau eraill sy'n cael eu cyflwyno gan y cyngor i helpu'r ddinas i leihau allyriadau carbon yn cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, plannu rhagor o goed a chartrefi cyngor newydd ynni isel.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Andrew Stevens, "Rydym wrth ein bodd bod sefydliadau allweddol wedi llofnodi Siarter Teithio Llesol Bae Abertawe.

"Rwy'n annog cyrff eraill o gwmpas y ddinas i ddysgu rhagor amdani a chroesawu'r ffaith bod cyflogwyr mawr fel y cyngor wedi ymuno â hi."

Meddai Dirprwy Arweinydd y Cyd y cyngor, Andrea Lewis, "Bydd y siarter hon yn helpu i gefnogi ein huchelgais i fod yn gyngor di-garbon erbyn 2030 a chael dinas ddi-garbon erbyn 2050.

"Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i gyflawni'r camau a amlinellir yn y siarter. Mae gwaith rhagorol eisoes yn mynd rhagddo, gan annog pobl leol i ystyried opsiynau trafnidiaeth mwy llesol a chynaliadwy, fel cerdded, beicio, defnyddio cerbydau allyriadau isel a defnyddio cludiant cyhoeddus."

Meddai Philip McDonnell, Cydlynydd Carbon Isel Bae Abertawe, "Drwy 17 o gamau gweithredu uchelgeisiol, mae'r siarter yn hybu cerdded, beicio, cludiant cyhoeddus a'r defnydd o gerbydau allyriadau isel iawn.

"Mae'r camau gweithredu'n cynnwys sefydlu rhwydwaith o hyrwyddwyr teithio cynaliadwy ym mhob sefydliad, datblygu ymgyrchoedd ar gyfer staff, hyrwyddo'r cynllun beicio i'r gwaith a hyrwyddo gostyngiadau cludiant cyhoeddus.

"Drwy gydweithio, nod y sefydliadau yw cynyddu cyfran y teithiau a wneir i weithleoedd ac yn ôl sy'n gynaliadwy."

Daw lansiad y siarter wrth i dystiolaeth o'r brys sydd ei angen i fynd i'r afael â newid hinsawdd ddod fwyfwy i'r amlwg.

Siarter Teithio Llesol Bae Abertawe www.teithiollesol.cymru/

 

Close Dewis iaith