Toglo gwelededd dewislen symudol

Tirnod newydd yn dangos sut mae amserau'n newid er gwell

​​​​​​​Mae un o gynlluniau adfywio allweddol Abertawe wedi dathlu moment nodedig.

Copperworks Clock Tower

Copperworks Clock Tower

Mae'r tŵr cloc sy'n weladwy iawn wedi'i roi yn ôl yn adeilad hanesyddol y pwerdy yng ngwaith Copr yr Hafod-Morfa.

Dros y misoedd sydd i ddod, bydd yr adeilad sydd wedi'i adfer a'r adeileddau cyfagos yn gartref newydd ychwanegol i'r arbenigwyr diodydd o Gymru, Penderyn.

Caiff y safle ei ailwampio gan gwmni o Abertawe John Weaver Contractors ar ran Cyngor Abertawe.

Disgwylir i safle Gwaith Copr yr Hafod-Morfa fod yn atyniad ymwelwyr newydd ar gyfer wisgi Penderyn eleni.

Bydd yn rhoi bywyd newydd i bwerdy a thai allan y safle hanesyddol. Bydd distyllfa ar y safle hefyd yn ychwanegu at gyfleusterau presennol y cwmni.

Mae cwmni o dde Cymru, Hayes Engineering & Cladding Ltd, wedi cynhyrchu - a gosod - y fframwaith dur ac sy'n ailgreu tŵr cloc gwreiddiol y pwerdy.

Bu'r gwaith yn bosib o ganlyniad i grant £3.75 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Mae'r cyngor yn bwriadu trosglwyddo'r safle i gwmni Penderyn i'w ddodrefni eleni. Mae'r cynllun yn rhan o raglen adfywio'r ddinas gwerth £1 biliwn a fydd yn helpu Abertawe i dyfu.

Llun Y tŵr cloc newydd yn cael ei godi i'w le ar adeilad pwerdy Gwaith Copr yr Hafod-Morfa. Llun: Hydrock

Close Dewis iaith