Toglo gwelededd dewislen symudol

Cytundeb Compact y Trydydd Sector

Mae gan Gyngor Abertawe hanes hir a chynhyrchiol o weithio mewn partneriaeth â'r trydydd sector yn Abertawe.

Gwnaed cytundeb Compact am y tro cyntaf rhwng y partïon ym 1999 ac mae wedi cael ei adolygu sawl gwaith ers hynny, yn fwyaf diweddar yn 2021.  Mae'r Compact yn sail i Strategaeth Trydydd Sector sy'n adlewyrchu egwyddorion gweithio ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe, Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Abertawe a'r trydydd sector ehangach i ddarparu fframwaith cadarn ac ymarferol ar gyfer deialog barhaus rhwng y partneriaid.

Cytundeb Compact y Trydydd Sector 2021

Cytundeb compact y trydydd sector 2021 (Word doc) [205KB]

Grŵp Cyswllt Compact y Trydydd Sector

Bydd y Cytundeb Compact rhwng y cyngor a'r sector yn cael ei fonitro a'i werthuso drwy Grŵp Cyswllt Compact, a phrif nod y grŵp fydd rhannu trosolwg cyffredinol o ddatblygiadau strategol a rhannu gwybodaeth yn gyffredinol.

Mae'r grŵp yn:

  • Cynnwys aelodaeth gyfartal o gynrychiolwyr y cyngor a'r trydydd sector.
  • Cyfarfod bob deufis (yn amlach os oes angen)
  • Bydd cynrychiolwyr y trydydd sector yn cael eu hethol o drawstoriad eang o'r sector a bydd cynrychiolwyr y cyngor yn cael eu dewis o feysydd gwasanaeth sy'n gysylltiedig â'r trydydd sector
  • Bydd y cyngor a'r trydydd sector yn cadeirio cyfarfodydd bob yn ail, a bydd partneriaid hefyd yn cymryd cofnodion a gweinyddu'r cyfarfod bob yn ail.
  • Sicrhau bod grwpiau fforwm y trydydd sector a grwpiau cyngor perthnasol yn cyfrannu

Byddai dibenion y grŵp yn cynnwys y canlynol:

  • Hyrwyddo'r Cytundeb Compact ac annog perchnogaeth a chefnogaeth ar draws y ddau sector
  • Monitro'r canlyniadau disgwyliedig fel a amlinellir yn y Cytundeb Compact ac adolygu'r amcanion i sicrhau'r erys y ddogfen yn ymatebol i dueddiadau presennol
  • Gweithredu fel offeryn i hwyluso deialog rhwng y cyngor a'r trydydd sector ar faterion sydd o ddiddordeb a rennir
  • Cytuno ar raglen waith ar y cyd ar gyfer pob blwyddyn a rheoli risg
  • Monitro cynnydd wrth gyflwyno'r rhaglen waith

Aelodaeth Grŵp Cyswllt Compact

Cyd-gadeiryddion:

Alyson Pugh; Aelod y Cabinet dros Les
Amanda Carr; Prif Weithredwr, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe

Cynrychiolwyr y Trydydd Sector

Alyx Baharie; Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe (Ysgrifenyddiaeth y Trydydd Sector)
Cherrie Bija; Ffydd mewn Teuluoedd
Phil MacDonnell: Fforwm yr Amgylchedd Abertawe
Elenor Norton; Darganfod, Gwirfoddoli Myfyrwyr Abertawe
Ifor Glynn: Canolfan Gofalwyr Abertawe
Emma Tweed: Gofal a Thrwsio
Sandi Mitchell: Eiriolaeth eich Llais

Cynrychiolwyr y Cyngor

Y Cynghorydd Ceri Evans
Jane Whitmore
Paul Relf
Amy Hawkins
Sue Reed
Spencer Martin (Ysgrifenyddiaeth y Cyngor)