Toglo gwelededd dewislen symudol

His Dark Materials: Creu Bydoedd yng Nghymru

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe yn falch o gyhoeddi golwg y tu ôl i'r llenni o'r cyfresi arobryn His Dark Materials gan y BBC a HBO ar y cyd â Bad Wolf. Bydd y gyfres, sydd wedi'i seilio ar drioleg o nofelau clodwiw Philip Pullman, yn dod i ben ar ôl ei drydydd tymor, sef yr un olaf, yn hwyrach eleni.

His Dark Materials

His Dark Materials

Am y tro cyntaf yn yr arddangosfa fawr hon, gall ymwelwyr weld gwisgoedd, celf cysyniad, fideos effeithiau gweledol, propiau a mwy o'r tri thymor - 1.12.2022-30.04.2023.

 

Mae'r drioleg yn dilyn Lyra Belacqua (Dafne Keen), merch amddifad sy'n byw mewn bydysawd cyfochrog lle mae eneidiau pobl yn byw y tu allan i'r corff ar ffurf anifeiliaid o'r enw "dæmons". Rydym yn cwrdd â Lyra am y tro cyntaf fel babi dan ofal yr ysgolheigion yng Ngholeg Jordan a'i hewythr tybiedig, yr Arglwydd Asriel (James McAvoy). Mae'r drioleg yn dilyn ei thaith ryfedd trwy fydoedd niferus His Dark Materials, wrth i'r awdurdod crefyddol, y Magisterium, fynd ar ei hôl. Mae Will Parry (Amir Wilson) yn ei helpu ar ei thaith, yn ogystal â'i dæmon, Pan (lleisir gan Kit Connor). Mae'r cast hefyd yn cynnwys Ruth Wilson sy'n chwarae rôl y ddraig o ddynes, Mrs Coulter, Lin-Manuel Miranda fel yr awyrennwr Lee Scoresby a Simone Kirby fel y gwyddonydd Mary Malone.

 

Ffilmiwyd y rhan fwyaf o'r gyfres yn Wolf Studios Wales yng Nghaerdydd, a ddefnyddiodd 6 o'i lwyfannau i greu bydoedd niferus His Dark Materials, o strydoedd Cittàgazze i dirweddau eiraog y Gogledd a phalas yr eirth arfog, Svalbard.

 

Bydd yr arddangosfa'n llenwi Atriwm prydferth ac Ystafelloedd 8 a 9 yr oriel ar y llawr cyntaf. Yn yr Atriwm, bydd cyfle i ymwelwyr cael cipolwg agos ar y propiau allweddol fel yr 'alethiometer', y  gyllell gynnil, a'r ysbienddrych ambr, yn ogystal â darnau mwy o'r set, fel angylion y Cittàgazze, baneri'r Magisterium a thaflunydd yr Arglwydd Asriel. Yn ystafelloedd 8 a 9, bydd modd gweld gwisgoedd y cymeriadau dros y tri thymor, yn ogystal â byrddau cysyniad, darluniau, fideos ac effeithiau gweledol, a fydd yn dangos yr amrediad llawn o greadigrwydd a fu'n rhan o'r broses o ddod â'r stori'n fyw. Bydd yr arddangosfa'n dathlu trioleg wych Philip Pullman ac addasiad ardderchog Bad Wolf ar gyfer y teledu, yn ogystal â phwysigrwydd pob ffurf ar gelfyddyd a chreadigrwydd, sy'n cyfrannu at ddod â chyfres deledu'n fyw.

 

Bydd yr arddangosfa am ddim a mi fydd y Galeri yn cydweithio gyda Screen Alliance Wales i greu cyfres o ddosbarthiadau meistr a cyfleodd dysgu bydd yn ehangu ar brofiad ymwelwyr.

 

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Elliott King, "Rwyf wrth fy modd ein bod ni'n gallu croesawu'r arddangosfa hon, y cyntaf o'i bath yn y byd, i Abertawe; mae'n dathlu Cymru fel cenedl greadigol iawn.

 

"Mae gan y ddinas enw da cynyddol am ddigwyddiadau o'r radd flaenaf ac mae His Dark Materials: Creu Bydoedd yng Nghymru yn un arall a fydd yn tynnu sylw atom.

 

"Mae'n rhoi cyfle newydd i bobl leol fwynhau amser hamdden am ddim."

 

Mewn partneriaeth â Bad Wolf, IJPR Media a Screen Alliance Wales.