Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedu dros nos, diwrnod Beaujolais, y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2025-2026

Os ydych chi'n bwriadu cynnal digwyddiad ar gyfer Nos, diwrnod Beaujolais neu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn eich mangre, efallai y bydd angen Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro arnoch (TEN).

Bydd hyn yn berthnasol os nad oes trwydded mangre/tystysgrif mangre clwb gennych, neu os nad yw'ch trwydded mangre/tystysgrif mangre clwb yn caniatáu'r gweithgaredd trwyddedadwy rydych yn ei gynllunio. Mae gweithgareddau trwyddedadwy'n cynnwys gwerthu neu gyflenwi alcohol, lluniaeth yn hwyr y nos (gwerthu bwyd twym a diod rhwng 23:00 a 05:00 - nid yw hyn yn berthnasol i fangreoedd clwb), adloniant a reoleiddir, sy'n cynnwys cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth sydd wedi'i recordio, dramâu, ffilmiau, chwaraeon dan do, paffio a reslo. Os nad ydych yn siŵr a oes angen TEN arnoch ar gyfer eich digwyddiad, e-bostiwch ni yn Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk.

Mae TEN yn caniatáu i ddigwyddiadau bara hyd at 7 niwrnod (168 o oriau) ac ni chaniateir i fwy na 499 o bobl fod yn bresennol. Mae'n rhaid i drefnydd y digwyddiad gyflwyno'r hysbysiad o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn dyddiad y digwyddiad. Gellir cyflwyno TEN hwyr, ond ni ddylai hyn fod yn gynt na 9 niwrnod gwaith cyn y digwyddiad nac yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y digwyddiad a rhaid nodi mai TEN hwyr ydyw. Sylwer, nid yw'r diwrnodau gwaith yn cynnwys y diwrnod cyflwyno, hynny yw, y diwrnod y mae'r awdurdod hwn yn ei dderbyn, a diwrnod y digwyddiad ei hun.

Nid yw diwrnodau gwaith yn cynnwys dydd Sadwrn, dydd Sul na gwyliau banc, sef Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a Dydd Calan yn yr achos hwn.

Gwneud cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro Gwneud cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro

Dyddiadau cyflwyno ar gyfer TEN safonol a hwyr
Achlysur/dyddiadDyddiad cau ar gyfer TEN safonolDyddiad cau ar gyfer TEN hwyr
Calan Gaeaf
31 Hydref 2025
16 Hydref 202523 Hydref 2025
Noson Guto Ffowc (Tân Gwyllt)
5 Tachwedd 2025
21 Hydref 202528 Hydref 2025
Diwrnod Beaujolais
20 Tachwedd 2025
5 Tachwedd 202512 Tachwedd 2025
Noswyl Nadolig
24 Rhagfyr 2025
9 Rhagfyr 202516 Rhagfyr 2025
Dydd Nadolig
25 Rhagfyr 2025
10 Rhagfyr 202517 Rhagfyr 2025
Gŵyl San Steffan
26 Rhagfyr 2025
10 Rhagfyr 202517 Rhagfyr 2025
27 Rhagfyr 202510 Rhagfyr 202517 Rhagfyr 2025
28 Rhagfyr 202510 Rhagfyr 202517 Rhagfyr 2025
29 Rhagfyr 202510 Rhagfyr 202517 Rhagfyr 2025
30 Rhagfyr 202511 Rhagfyr 202518 Rhagfyr 2025
Nos Galan 2025
31 Rhagfyr 2025
12 Rhagfyr 202521 Rhagfyr 2025
Dydd Calan
1 Ionawr 2026
15 Rhagfyr 202522 Rhagfyr 2025

Hysbysiadau digwyddiad dros dro (TEN)

Gellir defnyddio TEN i awdurdodi gweithgaredd trwyddedadwy ar raddfa fach am ddigwyddiad unigryw.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Medi 2025