Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau alcohol ac adloniant

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn cwmpasu gwerthu a chyflenwi alcohol, rhai mathau o adloniant a lluniaeth hwyrnos.

Os ydych yn rheoli safle busnes neu glwb aelodau sy'n gweini alcohol neu'n darparu adloniant, bydd angen i chi wneud cais am drwydded. Hefyd, bydd angen i chi wneud cais am drwydded i weini lluniaeth hwyrnos.

Mae'n rhaid i bob cais am drwydded alcohol neu adloniant fodloni pedwar amcan trwyddedu. Mae'r rhain er mwyn helpu i sicrhau bod y drwydded yn diwallu lles y cyhoedd. Y pedwar amcan yw:

  • atal troseddu ac anhrefn
  • diogelwch y cyhoedd
  • atal niwsans cyhoeddus 
  • amddiffyn plant rhag niwed. 

Trwyddedu dros Galan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt, Beaujolais, Nadolig a Blwyddyn Newydd 2023-2024

Os ydych chi'n bwriadu cynnal digwyddiad ar gyfer Nos Galan Gaeaf, Noson Tân Gwyllt, diwrnod Beaujolais neu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn eich mangre, efallai y bydd angen Hysbysiad o Ddigwyddiad Dros Dro arnoch (TEN).

Trwyddedau mangre

Bydd trwydded mangre'n berthnasol i werthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant a reoleiddir a darparu lluniaeth gyda'r hwyr.

Cysylltu â'r Tîm Trwyddedu

Enw
Cysylltu â'r Tîm Trwyddedu
Rhif ffôn
01792 635600

Hysbysiadau digwyddiad dros dro (TEN)

Gellir defnyddio TEN i awdurdodi gweithgaredd trwyddedadwy ar raddfa fach am ddigwyddiad unigryw.

Ffioedd ar gyfer Deddf Trwyddedu 2003

Manylion y prif ffïoedd ar gyfer trwyddedau mangreoedd a thystysgrifau mangreoedd clwb a'r ffïoedd eraill ar gyfer hysbysiadau digwyddiadau dros dro a thrwyddedau personol.

Trwyddedau personol

Mae trwydded bersonol yn galluogi unigolion i gyflenwi, neu awdurdodi cyflenwi alcohol o sefydliad â thrwydded mangre.

Tystysgrifau mangre clwb

Mae clybiau gwirfoddol a chymdeithasol yn cynnal gweithgareddau o fangreoedd lle cyfyngir ar fynediad gan y cyhoedd a lle cyflenwir alcohol am resymau ac eithrio elw. Dylai fod ganddynt dystysgrif mangre clwb.

Hysbysiad o geisiadau am eiddo newydd ac amrywiadau

Mae ceisiadau newydd am drwyddedau mangre ac amrywiadau i drwyddedau presennol o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 wedi'u rhestru isod. Bydd yr hysbysiadau hyn yn aros yma am y cyfnod cyflwyno sylwadau o 28 niwrnod.

Adolygiadau trwydded

Gellir gofyn am Adolygiad Trwydded lle mae mangre'n achosi niwsans ac mae tystiolaeth bod y problemau'n ymwneud â'r amcanion trwyddedu.

Datganiad o bolisi trwyddedu

Mae Deddf Trwyddedu 2003 yn mynnu ein bod yn cyhoeddi datganiad o bolisi trwyddedu bob pum mlynedd. Mae'r polisi'n datgan sut y byddwn yn cyflawni'n swyddogaethau fel yr awdurdod trwyddedu.
Close Dewis iaith