Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Bydd trwydded mangre'n berthnasol i werthu a chyflenwi alcohol, darparu adloniant a reoleiddir a darparu lluniaeth gyda'r hwyr.
Beth yw adloniant a reoleiddir?
perfformiad drama
dangos ffilm
digwyddiadau chwaraeon dan do
adloniant bocsio neu ymgodymu
perfformio cerddoriaeth fyw
chwarae cerddoriaeth a recordiwyd
perfformio dawns
Beth yw lluniaeth hwyrnos?
Ystyr hyn yw gwerthu bwyd neu ddiod cynnes rhwng 11.00pm a 5.00am.
Cais am drwydded mangre newydd
Rhaid cwblhau'r ffurflen gais yn llawn.Sicrhewch eich bod yn darllen y nodiadau arweiniol cyfan cyn cwblhau'r ffurflen.
Os ydych am werthu alcohol bydd angen i chi roi enw a manylion y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig (GMS). Bydd rhaid iddo gael trwyddedau personol. Bydd rhaid i'r GMS gwblhau ffurflen ganiatâd yn Atodiad C yn y pecyn cais.
Dylech gwblhau cynllun o'r eiddo a'i ddychwelyd gyda'r ffurflen wedi'i chwblhau. Mae arweiniad yn Atodiad A y pecyn cais.
Cysylltwch â'r Awdurdod Trwyddedu os ydych chi'n gwneud cais am drwydded mangre newydd neu amrywiad i drwydded mangre bresennol cyn cyflwyno'r ceisiadau er mwyn sicrhau y cytunir ar yr holl wybodaeth a dyddiadau. Mae'r Awdurdod Trwyddedu'n annog ymgeiswyr i drafod cynigion â'r Swyddogion Trwyddedu ac i gyflwyno ceisiadau drafft cyn eu cyflwyno. Bydd y swyddogion yn rhoi gwybod os oes gofyn i'r ymgeisydd drafod y cynigion â'r awdurdodau cyfrifol. Gall methu cysylltu arwain at oedi'ch cais a chostau hysbysebu/gosod hysbysiadau diangen.
Y diwrnod ar ôl i chi gyflwyno'r cais i ni, mae'n rhaid i chi hysbysebu'r cais ar ffurf Hysbysiad ar y safle (gweler templed yn Atodiad E y pecyn cais).
O fewn 10 niwrnod gwaith yn dilyn cyflwyno'r cais, mae'n rhaid i chi hefyd hysbysebu'r cais mewn papur newydd a ddosberthir yn yr ardal.
Bydd eich cais hefyd yn cael ei hysbysebu ar ein tudalennau ceisiadau eiddo newydd.
Sut mae gwneud cais
Sut i gyflwyno cais am drwydded mangre newydd
Mae ein
pecyn arweiniad mangre newydd (PDF, 494 KB) yn esbonio sut i wneud cais am drwydded mangre newydd ac mae'n cynnwys copïau o'r ffurflenni y bydd angen i chi eu llenwi. Dylech ddarllen hwn yn ofalus wrth i chi lenwi'r ffurflenni. Mae'r ddogfen hon yn 55 o dudalennau felly ni fyddwn yn argymell eich bod yn ei hargraffu.
Unwaith y byddwch wedi llenwi'r ddwy ffurflen yn llawn gallwch naill ai eu cyflwyno trwy e-bost yn Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk neu eu postio i'r adran Drwyddedu.
Os byddwch yn gwneud cais drwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' a'i anfon ynghyd â'r ffurflen.
Caniatâd dealledig
Mae gennym gyfnod targed o 40 niwrnod i brosesu'r hysbysiad hwn. Rydym yn ceisio cydnabod eich cais a dechrau ei brosesu o fewn y cyfnod hwn. Os nad ydych wedi clywed gennym ar ôl y cyfnod hwn, cewch weithredu fel pe bai'ch cais wedi'i ganiatáu.
Sylwer bod y cyfnod targed hwn ond yn dechrau pan fyddwn yn derbyn cais cyflawn, gan gynnwys dogfennau ategol a thâl.
Ar gyfer mân amrywiadau nid yw caniatâd dealledig yn berthnasol.Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych yn clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.
Os oes gennych unrhyw broblemau â'ch cais neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch Trwyddedu.IyA@abertawe.gov.uk. Gall unrhyw ymgeisydd y gwrthodir tystysgrif iddo neu sy'n dymuno apelio yn erbyn amod sy'n gysylltiedig â'i dystysgrif apelio i'w Lys Ynadon lleol o fewn 21 diwrnod o apelio'r penderfyniad.
Mae gennym gofrestr gyhoeddus sy'n nodi'r holl fangreoedd sydd wedi'u trwyddedu gennym o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. I weld y gofrestr, cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu i drefnu amser. Mae'r gofrestr ar gael i'w gweld yn ystod oriau swyddfa yn unig.
Os hoffech wneud newid bach i'ch trwydded mangre, gallwch wneud cais am fân amrywiad i drwydded mangre. Mae hon yn ffordd ratach a chyflymach o ddiwygio'ch trwydded.
Dim ond deiliad y drwydded mangre all wneud cais i amrywio'r Goruchwyliwr Mangre Dynodedig. Os bydd Goruchwyliwr Mangre Dynodedig yn gadael y tŷ trwyddedig yna rhaid gwneud amrywiad ar unwaith. Ni fyddwch yn cael eich awdurdodi i werthu alcohol nes bod y cais cywir wedi'i wneud.Bydd angen i chi gael caniatâd gan y Goruchwyliwr Mangre Dynodedig newydd.
Os oes gennych ddiddordeb cyfreithiol mewn adeilad trwyddedig, gallwch wneud cais i dderbyn hysbysiad am unrhyw faterion trwyddedu sy'n effeithio ar y fangre.
Os yw mangre wedi'i gwerthu neu os yw'n newid perchnogaeth, gallwch wneud cais i drosglwyddo'r drwydded mangre. Bydd angen i chi gael caniatâd gan ddeiliad presennol y drwydded.
Yn dilyn marwolaeth, analluogrwydd, ansolfedd neu newid mewn statws mewnfudo deiliad trwydded mangre, gellir creu hysbysiad awdurdod dros dro fel nad yw'r drwydded mangre yn dod i ben.