Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau arweiniol ar gyfer cyflwyno cais i wneud mân amrywiad i drwydded mangre

I sicrhau eich bod yn cwblhau'r ffurflen mân amrywiadau yn gywir, darllenwch yr arweiniad yn ofalus.

Nodyn 1

Nodyn cyffredinol: Gellir ond defnyddio'r broses mân amrywiadau ar gyfer amrywiadau na fyddant yn effeithio'n andwyol ar hyrwyddo unrhyw un o'r pedwar amcan trwyddedu. (Dyma'r amcanion: atal troseddu ac anhrefn; diogelwch y cyhoedd; atal niwsans cyhoeddus; ac amddiffyn plant rhag niwed.)

Ni ellir ei defnyddio i:

  • ehangu cyfnod effaith y drwydded
  • amrywio'n sylweddol y fangre y mae'n berthnasol iddi
  • nodi, mewn trwydded mangre, unigolyn fel goruchwyliwr dynodedig y fangre
  • ychwanegu gwerthu neu gyflenwi alcohol fel gweithgaredd sydd wedi'i gymeradwyo gan drwydded
  • cymeradwyo gwerthu neu gyflenwi alcohol ar unrhyw adeg rhwng 11pm a 7am
  • cymeradwyo cynnydd yn y cyfnod o amser ar unrhyw ddiwrnod y gellir gwerthu alcohol trwy fanwerthu neu ei gyflenwi Adran 41D (3) (Yn agor ffenestr newydd) Deddf Trwyddedu 2003 mewn trwydded mangre.

Nodyn 2

Disgrifiad o'r fangre: Er enghraifft, y math o fangre, ei safle a'i chynllun cyffredinol ac unrhyw wybodaeth arall a allai fod yn berthnasol i'r amcanion trwyddedu. Dylai hyn gynnwys unrhyw weithgareddau a fydd yn digwydd yn y fangre neu'n gysylltiedig â defnyddio'r fangre a allai beri pryder o ran plant, p'un a ydych yn bwriadu caniatáu mynediad i blant i'r fangre ai peidio, er enghraifft (ond nid yn unig) noethni neu led noethni, ffilmiau ar gyfer grwpiau oedran cyfyngedig, presenoldeb peiriannau hapchwarae etc.

Nodyn 3

Nid oes rhaid i chi dalu ffi os mai unig bwrpas yr amrywiad yr ydych chi'n gwneud cais amdano yw osgoi bod yn atebol am yr ardoll hwyr y nos.

Nodyn 4

Rhowch fanylion llawn am yr amrywiad/yr holl amrywiadau arfaethedig. Gall peidio â chyflwyno gwybodaeth ddigonol arwain at wrthod eich cais. Dylai manylion gynnwys disgrifiad o'r amrywiad(au) arfaethedig sydd mor drachywir â phosib.  Os nad ydych yn drachywir, efallai bydd yr awdurdod trwyddedu'n penderfynu bod yr amrywiadau rydych yn eu cynnig yn ehangach na'r hyn rydych chi'n ei fwriadu, ac yn gwrthod eich cais am nad yw'n 'fân' amrywiad. Dylech hefyd gynnwys datganiad i nodi pam rydych chi'n ystyried na allai'r amrywiadau rydych chi'n eu cynnig effeithio ar yr amcanion trwyddedu a restrwyd yn adran 4(2) (Yn agor ffenestr newydd) y ddeddf. Dylech drafod pob un o'r amcanion sydd, o bosib, yn berthnasol i'ch cynnig (neu, os oes mwy nag un, i bob cynnig), gan ddweud pam rydych chi'n meddwl na fyddai unrhyw effaith andwyol ar yr amcan hwnnw. Bydd o fantais i'ch cais gynnwys cymaint o wybodaeth â phosib am hyn. (Fodd bynnag, mae blwch 'mwy o wybodaeth' ar ddiwedd y ffurflen, a dylid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw wybodaeth gefndirol berthnasol nad yw'n uniongyrchol berthnasol i'r newid.) Mae gwybodaeth berthnasol yn cynnwys:

a) Amrywiadau i weithgareddau trwyddedadwy / oriau trwyddedu (dylid nodi pob amser ar ffurf cloc 24 awr e.e. 16.00. Rhowch y manylion ar gyfer y diwrnodau hynny'n unig pan fyddwch yn bwriadau defnyddio'r fangre ar gyfer y gweithgaredd), megis:

  • p'un a fydd gweithgareddau trwyddedadwy newydd neu ychwanegol yn cael eu cynnal dan do neu yn yr awyr agored (gall dan do gynnwys pabell)
  • manylion perthnasol ychwanegol, er enghraifft a fydd cerddoriaeth yn cael ei chwyddo neu ddim
  • diwrnodau ac amseroedd arferol y gweithgaredd, gan gynnwys amseroedd dechrau a gorffen
  • unrhyw amrywiadau tymhorol o ran amserau e.e. dyddiau ychwanegol yn ystod yr haf
  • amserau anarferol e.e. os ydych yn dymuno cynnal y digwyddiad am amser hwy ar ddiwrnod penodol megis Noswyl Nadolig.

b) Amrywiadau i'r fangre / cynllun y clwb: Os ydych yn cyflwyno cais i newid cynllun eich mangre, rhaid i chi gynnwys cynllun diwygiedig. Dylech fod yn ymwybodol y bydd eich cais yn dueddol o gael ei wrthod os yw'n bosib y bydd yr amrywiad arfaethedig yn:

  • cynyddu'r lle i yfed yn y fangre
  • effeithio ar fynediad rhwng rhan gyhoeddus y fangre a gweddill y fangre neu'r stryd neu lwybr cyhoeddus e.e. yn rhwystro allanfeydd tân neu lwybrau i allanfeydd tân; neu'n
  • rhwystro gweithredu mesur lleihau sŵn yn effeithiol.

c) Diwygio, diddymu ac ychwanegu amodau: Gellir defnyddio'r broses mân amrywiadau i ddiddymu amodau sydd wedi dod i ben neu sy'n annilys, ac i ddiwygio amodau sy'n aneglur (ar yr amod nad yw'r bwriad na'r effaith yn newid). Gellir hefyd ei defnyddio i ychwanegu amod newydd sydd wedi'i gynnig gan yr ymgeisydd, neu amod y cytunwyd arno ar y cyd rhwng yr ymgeisydd ac awdurdod cyfrifol, megis yr heddlu neu awdurdod iechyd yr amgylchedd (yn destun effaith ar yr amcanion trwyddedu).

ch) Newidiadau i oriau agor: Manylion unrhyw newidiadau i'r oriau y mae'r fangre neu'r clwb ar agor i'r cyhoedd.

Nodyn 5

O ran adloniant rheoledig penodol, sylwer ar y canlynol:

  • Dramâu: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl.
  • Ffilmiau: nid oes angen trwydded i ddangos ffilm "nid er elw" mewn mangre gymunedol rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl a bod y trefnydd yn (a) cael caniatâd i ddangos y ffilm gan berson sy'n gyfrifol am y fangre; a (b) yn sicrhau bod unrhyw ffilmiau a ddangosir yn glynu wrth raddfeydd dosbarthiad oedran.
  • Digwyddiadau chwaraeon dan do: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 1000 o bobl.   
  • Adloniant paffio neu reslo: nid oes angen trwydded ar gyfer cystadleuaeth, arddangosfa neu arddangosiad reslo Groegaidd-Rufeinig, neu reslo dull rhydd rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 1000 o bobl. Mae chwaraeon ymladd cyfunol - diffinnir hyn fel cystadleuaeth, arddangosfa neu arddangosiad sy'n cyfuno paffio neu reslo ag un grefft ymladd neu fwy - yn drwyddedadwy fel adloniant paffio neu reslo yn hytrach na digwyddiad chwaraeon dan do.
  • Cerddoriaeth fyw: nid oes angen trwydded ar gyfer:
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw heb ei chwyddo rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn unrhyw fangre.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod mewn mangre sydd wedi'i hawdurdodi i werthu alcohol i'w yfed yn y fangre honno, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn gweithle nad yw wedi'i drwyddedu i werthu alcohol yn y fangre honno, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu fangre gymunedol debyg, nad yw wedi'i thrwyddedu â thrwydded mangre i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan berson sy'n gyfrifol am y fangre.
    • perfformiad o gerddoriaeth fyw wedi'i chwyddo rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod mewn mangre ddibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad yn y fangre berthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol dan sylw, neu (ii) yr ysgol neu (iii) ddarparwr gofal iechyd yr ysbyty.
  • Cerddoriaeth a recordiwyd: nid oes angen trwydded ar gyfer:
    • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod mewn mangre sydd wedi'i hawdurdodi i werthu alcohol i'w yfed yn y fangre honno, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl.
    • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn neuadd eglwys, neuadd bentref, neuadd gymunedol, neu fangre gymunedol debyg, nad yw wedi'i thrwyddedu â thrwydded mangre i werthu alcohol, ar yr amod (a) nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad gan berson sy'n gyfrifol am y fangre berthnasol.
    • chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi'i recordio rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, mewn mangre ddibreswyl (i) awdurdod lleol, neu (ii) ysgol, neu (iii) ysbyty, ar yr amod (a) nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl, a (b) bod y trefnydd yn cael caniatâd ar gyfer y perfformiad yn y fangre berthnasol gan: (i) yr awdurdod lleol dan sylw, neu (ii) berchennog yr ysgol, neu (iii) ddarparwr gofal iechyd yr ysbyty.
  • Dawns: nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiadau rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, ar yr amod nad yw'r gynulleidfa'n cynnwys mwy na 500 o bobl. Fodd bynnag, mae perfformiad a bennir yn adloniant oedolion yn parhau i fod yn drwyddedadwy.
  • Eithriadau ar gyfer gweithgareddau cymysg: nid oes angen trwydded rhwng 08:00 a 23:00 ar unrhyw ddiwrnod, heb gyfyngiad ar nifer y bobl sydd yn y gynulleidfa ar gyfer:  
    • unrhyw adloniant a gynhelir mewn mangre awdurdod lleol lle darperir yr adloniant gan yr awdurdod lleol neu ar ei ran
    • unrhyw adloniant a gynhelir mewn mangre darparwr gofal iechyd lle darperir yr adloniant gan y darparwr gofal iechyd neu ar ei ran
    • unrhyw adloniant a gynhelir mewn mangre ysgol lle darperir yr adloniant gan berchennog yr ysgol neu ar ei ran; a
    • unrhyw adloniant (ac eithrio ffilmiau ac adloniant paffio neu reslo) a gynhelir mewn syrcas deithiol, ar yr amod (a) y caiff ei gynnal mewn adeiledd symudol sy'n dal y gynulleidfa, a (b) nid yw'r syrcas deithiol wedi bod ar yr un safle am fwy na 28 niwrnod yn olynol.

Nodyn 6

Mwy o wybodaeth: Dylech ddefnyddio'r blwch hwn i ddarparu unrhyw dystiolaeth ychwanegol i gefnogi'ch cais bod y newid arfaethedig yn un 'mân', ac na fydd yn effeithio'n andwyol ar hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.

Nodyn 7

Llofnodion: Mae'n rhaid llofnodi'r ffurflen gais.

Nodyn 8

Asiant awdurdodedig: Gall asiant yr ymgeisydd (e.e. cyfreithiwr) lofnodi'r ffurflen ar ei ran, ac, wrth wneud hyn, bydd yn cadarnhau bod ganddo awdurdod i wneud hynny.

Nodyn 9

Ail ymgeisydd: Lle bo mwy nag un ymgeisydd, mae'n rhaid i'r ddau ymgeisydd neu eu hasiantau perthnasol lofnodi'r ffurflen gais.

Nodyn 10

Dyma'r cyfeiriad y byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi ynghylch y cais hwn. Efallai y bydd hwn yn wahanol i gyfeiriad y fangre neu'r ymgeisydd, ond rhaid darparu'r cyfeiriadau hyn hefyd.

Close Dewis iaith