Rhowch fanylion llawn am yr amrywiad/yr holl amrywiadau arfaethedig. Gall peidio â chyflwyno gwybodaeth ddigonol arwain at wrthod eich cais. Dylai manylion gynnwys disgrifiad o'r amrywiad(au) arfaethedig sydd mor drachywir â phosib. Os nad ydych yn drachywir, efallai bydd yr awdurdod trwyddedu'n penderfynu bod yr amrywiadau rydych yn eu cynnig yn ehangach na'r hyn rydych chi'n ei fwriadu, ac yn gwrthod eich cais am nad yw'n 'fân' amrywiad. Dylech hefyd gynnwys datganiad i nodi pam rydych chi'n ystyried na allai'r amrywiadau rydych chi'n eu cynnig effeithio ar yr amcanion trwyddedu a restrwyd yn adran 4(2) (Yn agor ffenestr newydd) y ddeddf. Dylech drafod pob un o'r amcanion sydd, o bosib, yn berthnasol i'ch cynnig (neu, os oes mwy nag un, i bob cynnig), gan ddweud pam rydych chi'n meddwl na fyddai unrhyw effaith andwyol ar yr amcan hwnnw. Bydd o fantais i'ch cais gynnwys cymaint o wybodaeth â phosib am hyn. (Fodd bynnag, mae blwch 'mwy o wybodaeth' ar ddiwedd y ffurflen, a dylid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw wybodaeth gefndirol berthnasol nad yw'n uniongyrchol berthnasol i'r newid.) Mae gwybodaeth berthnasol yn cynnwys:
a) Amrywiadau i weithgareddau trwyddedadwy / oriau trwyddedu (dylid nodi pob amser ar ffurf cloc 24 awr e.e. 16.00. Rhowch y manylion ar gyfer y diwrnodau hynny'n unig pan fyddwch yn bwriadau defnyddio'r fangre ar gyfer y gweithgaredd), megis:
- p'un a fydd gweithgareddau trwyddedadwy newydd neu ychwanegol yn cael eu cynnal dan do neu yn yr awyr agored (gall dan do gynnwys pabell)
- manylion perthnasol ychwanegol, er enghraifft a fydd cerddoriaeth yn cael ei chwyddo neu ddim
- diwrnodau ac amseroedd arferol y gweithgaredd, gan gynnwys amseroedd dechrau a gorffen
- unrhyw amrywiadau tymhorol o ran amserau e.e. dyddiau ychwanegol yn ystod yr haf
- amserau anarferol e.e. os ydych yn dymuno cynnal y digwyddiad am amser hwy ar ddiwrnod penodol megis Noswyl Nadolig.
b) Amrywiadau i'r fangre / cynllun y clwb: Os ydych yn cyflwyno cais i newid cynllun eich mangre, rhaid i chi gynnwys cynllun diwygiedig. Dylech fod yn ymwybodol y bydd eich cais yn dueddol o gael ei wrthod os yw'n bosib y bydd yr amrywiad arfaethedig yn:
- cynyddu'r lle i yfed yn y fangre
- effeithio ar fynediad rhwng rhan gyhoeddus y fangre a gweddill y fangre neu'r stryd neu lwybr cyhoeddus e.e. yn rhwystro allanfeydd tân neu lwybrau i allanfeydd tân; neu'n
- rhwystro gweithredu mesur lleihau sŵn yn effeithiol.
c) Diwygio, diddymu ac ychwanegu amodau: Gellir defnyddio'r broses mân amrywiadau i ddiddymu amodau sydd wedi dod i ben neu sy'n annilys, ac i ddiwygio amodau sy'n aneglur (ar yr amod nad yw'r bwriad na'r effaith yn newid). Gellir hefyd ei defnyddio i ychwanegu amod newydd sydd wedi'i gynnig gan yr ymgeisydd, neu amod y cytunwyd arno ar y cyd rhwng yr ymgeisydd ac awdurdod cyfrifol, megis yr heddlu neu awdurdod iechyd yr amgylchedd (yn destun effaith ar yr amcanion trwyddedu).
ch) Newidiadau i oriau agor: Manylion unrhyw newidiadau i'r oriau y mae'r fangre neu'r clwb ar agor i'r cyhoedd.