Llyfrgell Ganolog
Mae'r Llyfrgell Ganolog bellach ar gau i'r cyhoedd wrth iddi symud o'r Ganolfan Ddinesig i'r Storfa.
Disgwylir i'r llyfrgell newydd yn Y Storfa gael ei hagor yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd diweddariadau'n cael eu postio yma ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, felly cadwch lygad amdanynt!
Wrth i'r llyfrgell fod ar gau
Gallwch barhau i fenthyg a dychwelyd llyfrau yn unrhyw un o'n 16 llyfrgell arall (gan gynnwys dychwelyd llyfrau a fenthycwyd o'r Llyfrgell Ganolog), yn ogystal â chael mynediad at gyfrifiaduron, argraffwyr a Wi-Fi:
Llyfrgelloedd yn Abertawe Llyfrgelloedd yn Abertawe
Mae amrywiaeth o ddigwyddiadau ar gyfer pob oedran ar draws ein llyfrgelloedd, beth am gael cip:
Digwyddiadau'r llyfrgell Digwyddiadau'r llyfrgell
Mae ein gwasanaethau ar-lein yn parhau i fod ar gael fel arfer, gan gynnwys:
- Gallwch chwilio, adnewyddu a gofyn am eitemau'r llyfrgell ar-lein
- e-Lyfrau, e-Lyfrau Llafar, e-Gylchgronau ac e-Bapurau Newydd
- Ymuno â Llyfrgelloedd Abertawe
- Adnoddau llyfrgell ar-lein
Eich Llyfrgell Ganolog newydd yn Y Storfa
Byddwch yn gallu defnyddio'r Llyfrgell Ganolog newydd yn Y Storfa bob diwrnod o'r wythnos! Fel nawr, gall oriau fod yn wahanol yn ystod gwyliau cyhoeddus. Bydd llyfrgell y Ganolfan Ddinesig yn symud i'r Storfa. Mae'r llyfrgell wedi bod ar agor chwe diwrnod yr wythnos; roedd hi ar gau bob dydd Llun.
Bydd trefn hunanwasanaeth arloesol, heb staff ar waith bob dydd Llun yn y llyfrgell newydd a fydd yn eich galluogi i:
- fenthyca, dychwelyd ac adnewyddu eitemau i'w benthyg - dewch â'ch cerdyn llyfrgell
- cyrchu catalog ar-lein Llyfrgelloedd Abertawe
- casglu eitemau sydd ar gadw pan fyddant ar gael
- argraffu - drwy daliad ar-lein
- sganio - ar sganiwr gwastad
- defnyddio dyfeisiau cyhoeddus, gan gynnwys cyfrifiaduron a thabledi Hublet, er mwyn cael mynediad at y rhyngrwyd ac at ddibenion eraill
- defnyddio WiFi am ddim
- cael mynediad at fapiau
- cael mynediad at bapurau newyddion ar ficroffilm
- ymuno â'r llyfrgell ar-lein
- defnyddio ardaloedd cyhoeddus Y Storfa
Bydd y Llyfrgell Ganolog newydd yn cael ei staffio chwe diwrnod yr wythnos, fel y mae nawr, a bydd yn cynnig ei hamrediad llawn o wasanaethau.
Bydd ei horiau agor yr un peth â rhai'r Ganolfan Ddinesig (ynghyd â'r hunanwasanaeth ar ddydd Llun):
- Dydd Llun - 9.00am - 5.30pm (hunanwasanaeth yn unig)
- Dydd Mawrth - 9.00am - 5.30pm
- Dydd Mercher - 9.00am - 7.00pm
- Dydd Iau - 9.00am - 5.30pm
- Dydd Gwener - 9.00am - 5.30pm
- Dydd Sadwrn - 10.00am - 4.00pm
- Dydd Sul - 10.00am - 4.00pm
Digwyddiadau'r Llyfrgell Ganolog
