Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymuno â Llyfrgelloedd Abertawe

Cofrestrwch i ddod yn aelod am ddim ar-lein neu yn unrhyw un o'n 17 o lyfrgelloedd i ddechrau mwynhau'r ystod lawn o fanteision.

Manteision bod yn aelod o Lyfrgelloedd Abertawe:

 

Ymaelodi ar-lein i fod yn aelod o'r llyfrgell (Yn agor ffenestr newydd)

Os ydych eisoes yn aelod llawn o Lyfrgelloedd Abertawe, nid oes angen i chi gofrestru eto i gael mynediad at ein hadnoddau ar-lein. Pan fyddwch yn cofrestru, gallwn wirio'n cronfa ddata ar sail yr wybodaeth a ddarperir, i sicrhau orau y gallwn nad ydym yn dal unrhyw gofrestriadau blaenorol ac felly'n osgoi dyblygu aelodaeth.

Ar ôl cwblhau'r ffurflen ar-lein, byddwch yn derbyn neges groeso sy'n cynnwys eich rhif llyfrgell dros dro ac a fydd yn cadarnhau eich PIN. Bydd angen yr wybodaeth hon arnoch i gael mynediad at eich cyfrif.

Wedyn, bydd angen i chi fynd i'r llyfrgell o'ch dewis gyda'ch rhif llyfrgell dros dro ac un prawf hunaniaeth sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad (er enghraifft, trwydded yrru, datganiad banc neu fil cyfleustod) i dderbyn eich rhif llyfrgell parhaol a'ch cerdyn, a fydd yn golygu eich bod yn aelod llawn. Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn.

Gallwch hefyd ymuno'n bersonol trwy ymweld ag unrhyw lyfrgell yn Abertawe gyda phrawf adnabod fel y disgrifir uchod.

Gallwch gael mynediad at eich cyfrif ar unrhyw adeg (Yn agor ffenestr newydd) trwy ddefnyddio'ch rhif llyfrgell a'ch PIN.

 

Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd 

Rydyn ni'n rhan o'r Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd, sy'n galluogi aelodau ein llyfrgelloedd i gael mynediad at wasanaethau mewn llyfrgelloedd eraill sydd hefyd yn rhan o'r cynllun. Mae'r rhain yn cynnwys: llyfrgelloedd cyhoeddus Castell-nedd Port Talbot, Sir Gâr, Ceredigion, Powys a Sir Benfro; llyfrgelloedd addysg bellach ac addysg uwch; a gwasanaethau llyfrgelloedd y GIG/gwasanaethau iechyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i: Cynllun Pasbort Llyfrgelloedd Ynghyd (Llyfrgelloedd Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)

 

Amodau a thelerau

Aelodaeth

Mae aelodaeth ar-lein yn caniatáu i chi ddefnyddio'n casgliadau digidol megis elyfrau, e-lyfrau llafar a lawrlwythiadau. Pan fyddwch yn ymuno ar-lein, byddwch yn derbyn rhif adnabod llyfrgell a rhif adnabod personol o'ch dewis ar gyfer eich defnydd personol.

Mae aelodaeth lawn o'r llyfrgell yn caniatáu i chi ddefnyddio holl wasanaethau'r llyfrgell a ddarperir gan Lyfrgelloedd Abertawe a'n sefydliadau partner.  Pan fyddwch wedi ymuno fel aelod llawn, byddwch yn derbyn cerdyn aelodaeth llyfrgell a Rhif Adnabod Personol ar gyfer eich defnydd personol.

Codir tâl am rai o wasanaethau'r llyfrgell: Taliadau llyfrgell

  • Mae'n rhaid i aelodau'r llyfrgell gyflwyno'u cardiau aelodaeth llyfrgell pan fyddant yn benthyca eitemau ac yn defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell.
  • Fel aelod o'r llyfrgell, rydych yn gyfrifol am yr holl eitemau rydych yn eu benthyca ar eich cerdyn llyfrgell, gan gynnwys unrhyw eitemau a gollir neu a ddifrodir ac y gall fod yn rhaid i chi dalu amdanynt, a'ch cyfrifoldeb chi yw talu unrhyw ffïoedd hwyr neu daliadau a gronnwyd ar eich cyfrif llyfrgell. Os aiff y cerdyn ar goll, mae'n rhaid i chi hysbysu'r llyfrgell. Gellir codi tâl am gardiau newydd.
  • Rydych yn gyfrifol am ddweud wrthym am unrhyw newidiadau i'ch manylion personol, fel newid cyfeiriad er enghraifft. Gallwch hefyd wneud hyn drwy fewngofnodi ar-lein: https://wales.ent.sirsidynix.net.uk/client/cy_GB/swan_cy (Yn agor ffenestr newydd)
  • Rydych yn cadw'r hawl i derfynu'ch cyfrif ar unrhyw adeg.
  • Os hoffech ddiddymu'ch aelodaeth o'r llyfrgell, bydd yn rhaid i chi ddychwelyd yr holl eitemau rydych wedi'u benthyca a dychwelyd eich cerdyn aelodaeth i'w ganslo. Os oes unrhyw daliadau'n weddill yn eich cyfrif, disgwylir i chi dalu amdanynt.

Defnydd o gyfrifiaduron y llyfrgell a'r Wi-Fi

  • I ddefnyddio ein cyfrifiaduron cyhoeddus bydd angen rhif aelodaeth llyfrgell a rhif adnabod personol arnoch (gellir caniatáu defnydd achlysurol fel gwestai lle bo angen). Nid oes angen aelodaeth arnoch ar gyfer defnyddio Wi-Fi ond mae'n rhaid cofrestru drwy gyfeiriad e-bost dilys. Ni ellir trosglwyddo mynediad aelod o'r llyfrgell at y rhyngrwyd i unrhyw berson arall.
  • Mae'n rhaid i bawb sy'n defnyddio'r cyfrifiaduron personol / Wi-Fi gytuno i'r polisi defnydd derbyniol: Polisi defnydd derbyniol y gwasanaethau gigidol
  • Gallwch ddefnyddio'r feddalwedd a osodwyd ar ein cyfrifiaduron yn unig.
  • Os ydych chi dan 16 oed, bydd angen caniatâd gan riant, gwarcheidwad neu ofalwr arnoch ar gyfer defnyddio'r cyfrifiaduron personol cyhoeddus.
  • Cyfrifoldeb y person sy'n rhoi caniatâd ar gyfer defnyddio'r cyfrifiaduron personol cyhoeddus yw monitro a rheoli'r defnydd o'r rhyngrwyd a chyfrifiaduron y llyfrgell gan y plant dan eu gofal.
  • Hidlir mynediad at y rhyngrwyd a chofnodir mynediad. Ni chaiff cynnwys penodol unrhyw weithgarwch neu drafodion ei fonitro oni bai fod amheuaeth ynghylch defnydd amhriodol.
  • Gellir cyfeirio achosion o doriadau anghyfreithiol neu anghyfreithlon o'r polisi defnydd derbyniol er mwyn cymryd camau cyfreithiol neu gellir eu cyfeirio at yr heddlu, yn unol â phrotocolau rhannu gwybodaeth a chyfrifoldebau cyfreithiol y cyngor.
  • Bydd angen prosesu data personol er mwyn defnyddio cyfrifiaduron cyhoeddus a'r rhyngrwyd, ac mae ein hymrwymiad i ddiogelu'r data hwnnw wedi'i amlinellu isod.

Diogelu data a chadw data personol

Mae Cyngor Abertawe'n parchu'ch hawl i breifatrwydd ac mae'n ymroddedig i'w amddiffyn yn unol â'r ddeddfwriaeth diogelu data.

Cyngor Abertawe yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'ch aelodaeth â Llyfrgelloedd Abertawe. Mae Llyfrgelloedd Abertawe'n bwriadu cadw, cynnal a defnyddio'r data hwn yn unol â pholisi diogelu data'r cyngor a thelerau hysbysiad preifatrwydd y cyngor: Hysbysiad preifatrwydd

Mae'r wybodaeth rydych yn ei darparu i ni pan fyddwch yn ymuno â'r llyfrgell yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni'r contract sydd rhyngom. Gall peidio â darparu'r wybodaeth hon arwain at derfynu'n contract.

Defnyddio'r llyfrgell

  • Gofynnir i gwsmeriaid fod yn gwrtais ac yn barchus i ddefnyddwyr eraill y llyfrgell a staff.
  • Ni oddefir unrhyw ymddygiad ymosodol yn erbyn staff neu gwsmeriaid eraill ac ymdrinnir â hyn drwy bolisi ymddygiad afreolus y cyngor: Polisi Ymddygiad
  • Gall dwyn eitemau o'r llyfrgell arwain at gamau gweithredu cyfreithiol a / neu erlyniad troseddol.
  • Mae'r mwyafrif o eitemau am ddim i'w benthyca am y cyfnod benthyg a nodir. Manylir ar unrhyw ffïoedd dychwelyd yn hwyr a ffïoedd benthyca yn ein hysbysiad taliadau (Taliadau llyfrgell). Codir ffi o uchafswm o £5 fesul eitem am eitemau hwyr i gwsmeriaid. Sicrhewch eich bod yn talu unrhyw ddirwyon neu daliadau yn brydlon ac yn dychwelyd eitemau a fenthycwyd yn brydlon.
  • Tybir bod eitemau sy'n hwyr iawn wedi'u colli a chodir tâl cost y llyfr ar gyfrif y defnyddiwr.
  • I ddefnyddio adnoddau digidol y llyfrgell neu gyfrifiaduron personol i fenthyca deunydd, bydd yn rhaid i chi ddod yn aelod o'r llyfrgell a nodir yr amodau defnyddio uchod.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw ddeunyddiau rydych chi'n eu hailddefnyddio o'r casgliadau neu unrhyw ddeunyddiau rydych chi'n cael mynediad atynt drwy ein rhwydwaith mynediad cyhoeddus yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol gan gynnwys deddfwriaeth eiddo deallusol a hawlfraint: www.gov.uk/topic/intellectual-property/copyright.
  • Gofynnir i gwsmeriaid beidio â gwisgo dillad anweddus e.e. dillad traeth, dillad gwlyb a chymryd camau i fod yn gyfrifol am eu hylendid personol i osgoi peri tramgwydd i gwsmeriaid eraill y llyfrgell ac achosi difrod i eiddo'r llyfrgell.
  • Caniateir cyfarpar clywedol â chlustffonau ond sicrhewch nad yw cwsmeriaid eraill y llyfrgell yn gallu clywed unrhyw beth.
  • Ni chaniateir tynnu lluniau neu ffilmio yn y llyfrgell heb ganiatâd. Gallwch wneud cais i dynnu lluniau neu ffilmio yn y llyfrgell drwy'r cyngor (Ffilmio yn Abertawe) a bydd angen caniatâd ymlaen llaw os ydych am dynnu lluniau o aelodau eraill o'r cyhoedd/staff, neu eu ffilmio.
  • Gellir defnyddio ffonau symudol ond dylid cynnal unrhyw sgyrsiau sy'n tarfu ar eraill, neu y gallent darfu ar eraill, y tu allan i brif ardal y llyfrgell.
  • Mae'n rhaid i unrhyw luniau â chaniatâd fod yn ystyriol o'r casgliadau, staff y llyfrgell ac ymwelwyr eraill.
  • Dylid bwyta / yfed cyn lleied â phosib. Byddwch yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill ar bob adeg. Efallai y bydd gofyn i chi beidio â bwyta neu symud i ardal arall i fwyta'ch eitemau.
  • Ni chaniateir i chi ddefnyddio na fod dan ddylanwad alcohol, cyffuriau na sylweddau anghyfreithlon.
  • Ni chaniateir smygu nag e-sigaréts yn unrhyw un o'n hadeiladau.
  • Os bydd angen gadael mewn argyfwng, dilynwch gyfarwyddiadau staff y llyfrgell.
  • Rydych chi'n dod ag eiddo personol i'r llyfrgell ar eich menter eich hun.
  • Nid ydym yn argymell eich bod yn gadael unrhyw eiddo sy'n berchen i ddefnyddwyr ar safleoedd y llyfrgell.

Dylid darllen yr amodau a thelerau cyffredinol hyn ar y cyd ag Is-ddeddfau'r Llyfrgelloedd (a wnaed o dan Adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 gan Ddinas a Sir Abertawe) - ar gael ar gais.

Nid yw'r amodau hyn yn gynhwysfawr ac efallai y byddwn yn eu hadolygu ar unrhyw adeg ac yn gofyn i chi roi'r gorau i unrhyw weithgaredd arall a all arwain at beri tramgwydd ar unrhyw adeg.  Bydd unrhyw newidiadau'n cael eu hysbysu ar ein gwefan. Drwy barhau i ddefnyddio'n gwasanaethau, ar ôl i ni roi gwybod i chi am y newid mewn amodau, rydych yn cytuno i'r amodau a'r telerau defnyddio diwygiedig hyn.

Cyswllt:
Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgelloedd
Llyfrgelloedd Cyngor Abertawe, Canolfan Ddinesig, Oystermouth Road, Abertawe SA1 3SN
01792 636430
llinelllyfrgelloedd@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith