Toglo gwelededd dewislen symudol

e-Bapurau Newydd

Gyda PressReader gallwch gyrchu dros 7,000 o gylchgronau a phapurau newydd i'w darllen ar-lein neu eu lawrlwytho i fynd â nhw gyda chi a'u darllen yn union fel y fersiynau argraffedig.

Os ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Abertawe, mae gennych fynediad awtomatig at ein gwasanaeth e-Bapurau Newyddion, PressReader. Ddim yn aelod? Gwnewch gais i ymuno nawr.

  • Mynediad llawn at restr PressReader sy'n cynnwys dros 8,000 o bapurau newydd a chylchgronau premiwm, o'r eiliad maent ar gael ar y stondinau papurau newydd.
  • Mae'r teitlau sydd ar gael yn amrywio o The Washington Post, El Pais a Le Figaro i The Guardian, The South Wales Evening Post a'r Cymro.
  • Does dim angen eu rhoi ar gadw a does dim terfyn ar nifer yr e-bapurau newyddion y gallwch eu lawrlwytho.
  • Mae PressReader yn cynnig cyfieithiad di-oed mewn hyd at 18 iaith wahanol ar gyfer y rhan fwyaf o erthyglau a hyd yn oed cyhoeddiadau llawn.
  • Os ydych chi'n darllen eich cylchgrawn ar gyfrifiadur personol neu MAC neu ddyfais symudol drwy'r porwr (e.e. Google Chrome, Internet Explorer, Safari etc.), ni fydd angen unrhyw feddalwedd ychwanegol arnoch.
  • Lawrlwythwch yr ap PressReader o'ch siop apiau i lawrlwytho a darllen eich teitlau dewisol all-lein ac ar eich ffôn neu ddyfais symudol arall.

Agor PressReader (Yn agor ffenestr newydd)

I ddefnyddio PressReader bydd angen i chi gofrestru gan ddefnyddio'r opsiwn 'Libraries & Groups', ac yna chwilio am 'Swansea Libraries'.   Nodwch eich enw, rhif eich cerdyn llyfrgell arferol a'ch cyfrinair/PIN i greu cyfrif. 

Fideo cam wrth gam o sut i ddefnyddio PressReader gyda'ch cerdyn llyfrgell (Yn agor ffenestr newydd)

Efallai y bydd angen i chi nodi'ch manylion llyfrgell eto ar ôl cyfnod o amser. Mae angen gwneud hyn i ddilysu'ch cyfrif llyfrgell gyda PressReader.

  • Gallwch bori'r holl gyhoeddiadau neu ddewis categori o'r hafan.
  • I chwilio am deitl gallwch ddefnyddio'r opsiwn chwiliad chwyddwydr yn y gornel dde uchaf.
  • Cliciwch ar lun argraffiad er mwyn ei ddarllen, gwrando ar gynnwys erthygl neu i ddewis argraffiad o ddyddiad gwahanol. Gallwch hefyd ychwanegu eich hoff deitlau at 'My Publications'.

Arweiniad Cyflym i PressReader (Yn agor ffenestr newydd)

Mae arweiniad ychwanegol a fideos 'sut i' defnyddiol ar gael ar wefan PressReader (Yn agor ffenestr newydd).

Close Dewis iaith