Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

e-Lyfrau Llafar

Lawrlwythwch e-Lyfrau Llafar am ddim i'ch cyfrifiadur, eich tabled a'ch ffôn gyda BorrowBox a OverDrive.

Os ydych yn aelod o Lyfrgelloedd Abertawe mae gennych fynediad awtomatig i'n gwasanaethau e-lyfrau llafar, BorrowBoxOverDrive. Ddim yn aelod eto? Gwnewch gais i ymuno nawr.

  • Mae lawrlwytho e-lyfr llafar yn debyg i fenthyca unrhyw lyfr o'r llyfrgell ond maent yn dod i ben ar ôl 2 wythnos felly ni fydd unrhyw ddirwyon i'w talu.
  • Gallwch lawrlwytho e-lyfrau llafar i'ch cyfrifiadur, eich chwaraewr MP3, eich iPod neu unrhyw chwaraewr cyfryngau cludadwy arall (mae rhai cyfyngiadau yn ddibynnol ar y gwasanaeth - ewch i'r wefan am fwy o wybodaeth).
  • Mae apiau Apple ac Android ar gael er mwyn lawrlwytho a gwrando ar eich dewisiadau all-lein ac wrth fynd hwnt ac yma. 

Agor BorrowBox (Yn agor ffenestr newydd)

Fideo cam wrth gam sy'n dangos i chi sut i lawrlwytho a defnyddio ap BorrowBox ar eich dyfais (Yn agor ffenestr newydd)

Gallwch fenthyca hyd at 10 e-lyfr llafar gan BorrowBox

  1. Er mwyn defnyddio BorrowBox bydd angen i chi nodi eich rhif cerdyn llyfrgell arferol a'ch cyfrinair/PIN. Ar y tro cyntaf, gofynnir i chi ddarparu cyfeiriad e-bost i creu eich cyfrif.
  2. Dewiswch 'eAudiobooks' o'r ddewislen ar y brig er mwyn gweld eu teitlau. Gallwch weld y prif deitlau, llyfrau newydd a'r rhai sydd wedi'u lawrlwytho fwyaf yn ogystal â chwilio yn ôl categori.
  3. Er mwyn chwilio am lyfr gallwch ddefnyddio'r blwch chwilio ar ochr dde uchaf y dudalen.
  4. I fenthyca teitl dewiswch yr opsiwn 'borrow' o dan fanylion pob e-lyfr llafar.
  5. Ar ôl i chi fenthyca llyfr, cliciwch ar y botwm 'download' ar y dudalen 'loan successful' a dewiswch i lawrlwytho e-lyfr llafar, naill ai mewn un tro neu fesul rhan. Os bydd ffenestr dros dro yn ymddangos gydag opsiynau 'Open', 'Run' neu 'Save' ar gyfer eich llyfr pan rydych yn ei lawrlwytho, sicrhewch eich bod yn gwasgu 'Save', neu fel arall ni fydd yr e-lyfr llafar yn cael ei gadw ar eich cyfrifiadur yn y modd cywir.
  6. Ar ôl 14 diwrnod, bydd dau gyfnod adnewyddu o bythefnos ar gael. Ar ôl hyn, neu os ydych chi'n dewis peidio ag adnewyddu, ni fydd yr e-lyfr llafar ar gael i'w agor mwyach a bydd angen i chi ddileu'r ffeil o'ch dyfais.
    Ydych chi wedi gorffen eich llyfr yn gynt na'r disgwyl? Gwasgwch y botwm dychwelyd fel ei fod ar gael i rywun arall ei fwynhau.
  7. Os yw'r llyfr rydych am ei fenthyca'n dweud 'reserve' yn hytrach na 'borrow', mae hyn oherwydd bod defnyddiwr arall y llyfrgell eisoes wedi benthyca'r llyfr. Os ydych dal am fenthyca'r llyfr, gwasgwch 'reserve'. Cyn gynted ag y bydd yr e-lyfr llafar ar gael byddwch yn derbyn e-bost.

Gallwch wrando ar e-lyfr llafar drwy ddefnyddio meddalwedd sylfaenol sydd gennych eisoes ar eich cyfrifiadur neu eich MAC. Os ydych chi'n defnyddio'ch ffôn neu unrhyw ddyfais symudol arall gallwch lawrlwytho ap BorrowBox er mwyn gwrando ar eich e-lyfrau llafar.

Mae help ar gael ar wefan BorrowBox (Yn agor ffenestr newydd).

Agor OverDrive (Yn agor ffenestr newydd)

Fideo cam wrth gam sy'n dangos i chi sut i lawrlwytho a defnyddio ap Libby ar eich dyfais (Yn agor ffenestr newydd)

Gall oedolion fenthyca hyd at 3 e-lyfr llafar gan OverDrive.

  1. Er mwyn defnyddio OverDrive bydd angen i chi nodi'ch rhif cerdyn llyfrgell arferol a'ch cyfrinair.
  2. I weld yr holl e-lyfrau llafar, cliciwch ar yr opsiwn 'Subjects' ar ben uchaf y sgrîn ar y chwith a dewiswch 'Audiobooks'.
  3. I chwilio am deitl gallwch ddefnyddio'r chwyddwydr ar ochr dde uchaf y dudalen.
  4. I fenthyca eitem dewiswch yr opsiwn 'borrow' o dan fanylion pob e-lyfr llafar. Bydd gennych opsiwn i ddewis am ba mor hir yr hoffech fenthyca'r eitem, am hyd at 21 diwrnod.
  5. Ar ôl i chi fenthyca teitl, cliciwch ar y botwm 'download' ar y ffenestr dros dro sy'n ymddangos ar y sgrîn. Os bydd ffenestr dros dro yn ymddangos gydag opsiynau 'Open', 'Run' neu 'Save' ar gyfer eich llyfr pan rydych yn ei lawrlwytho, sicrhewch eich bod yn gwasgu 'Save', neu fel arall ni fydd yr e-lyfr llafar yn cael ei gadw ar eich cyfrifiadur yn y modd cywir.
  6. Ar ôl 21 diwrnod bydd ffeil yr e-lyfr llafar yn cael ei ddileu'n awtomatig oddi ar eich dyfais. Bydd y ffeil hefyd yn cael ei thynnu oddi ar eich cyfrifiadur os ydych yn dewis dychwelyd yr e-lyfr llafar yn gynnar.
  7. Os yw'r llyfr rydych am ei fenthyca yn dweud 'hold' yn hytrach na 'borrow', mae hyn oherwydd bod defnyddiwr arall y llyfrgell eisoes wedi benthyca'r llyfr. Os ydych dal am fenthyca'r llyfr gallwch glicio ar 'hold'. Cyn gynted ag y bydd yr e-lyfr llafar ar gael, anfonir e-bost atoch - os nad oes cyfeiriad e-bost wedi'i gadw ar gyfer eich cyfrif, nodwch a chadarnhewch un pan ofynnir i chi wneud hynny.

Gallwch wrando ar yr e-lyfr llafar ar eich cyfrifiadur neu'ch MAC drwy lawrlwytho ap OverDrive. Os ydych chi'n defnyddio'ch ffôn neu unrhyw ddyfais symudol arall gallwch lawrlwytho ap Libby er mwyn gwrando ar eich e-lyfrau llafar. Gallwch hefyd ddefnyddio Libby drwy eich porwr gwe.

Mae help ar gael ar wefan BorrowBox (Yn agor ffenestr newydd). Bydd angen i chi fewngofnodi i'r wefan i gael mynediad iddi.

Close Dewis iaith