Taliadau llyfrgell a thalu ar-lein
Taliadau am gadw eitemau, dychwelyd llyfrau'n hwyr a gwasanaethau llyfrgell eraill. Gallwch hefyd dalu am argraffu a chopïo ar-lein.
Gallwch dalu ag arian parod ym mhob llyfrgell a chyda cherdyn credyd/debyd yn Llyfrgell Ganolog Abertawe, Llyfrgell Ystumllwynarth, Llyfrgell Gorseinon a Llyfrgell Treforys.
Taliadau llyfrau a llyfrau sain hwyr (yr eitem)
Wedi'u gohirio tan 31 Mawrth 2023 ar hyn o bryd
Llogi DVD
Oedolion a phlant - £2.20 yr wythnos
Pensiynwyr a PTL - £2.00 yr wythnos
Setiau blwch (4 DVD neu fwy) - oedolion a phlant - £5.00 am 2 wythnos
Setiau blwch (4 DVD neu fwy) - pensiynwyr a PTL - £3.00 am 2 wythnos
Neilltuo
Ar gael yn stoc Llyfrgelloedd Abertawe - dim tâl
Trwy'r cynllun partneriaeth lleol - dim tâl (amodol ar y polisi defnydd teg)
Ddim mewn stoc (Benthyciad rhwng llyfrgelloedd a newydd) - £7
Ddim mewn stoc (Benthyciad rhwng llyfrgelloedd a newydd) pensiynwyr a PTL - £5
Llungopïo/argraffu ar argraffydd microffilm - talu ar-lein
Du a gwyn - 20c y daflen
Lliw - 70c y daflen
Sgan A3/A4 (wedi'i argraffu, ei anfon drwy e-bost neu drwy'r post) - £2.50 y llun yn ogystal â phostio a phacio
Stoc wedi'i thynnu yn ôl - prisiau unigol
Ffyn data - £6 yr un
Clustffonau - £1.50 yr un
Nwyddau - prisiau unigol
Hurio ystafelloedd - holwch
Ymholiadau Mynegai Cambrian - prisiau unigol
Gwasanaethau ymchwil a ffïoedd - £15.00 am bob 30 munud*
*Sylwer: ni chodir tâl am ymholiadau sy'n cymryd llai na hanner awr i'w hateb, er gellir codi tâl am unrhyw eitemau a ddarperir sydd wedi'u llungopïo neu eu hargraffu.
Gellir codi tâl ymchwil o £15.00 am bob hanner awr ar gyfer ymholiadau sy'n cymryd rhwng hanner awr a'r mwyafswm o ddwy awr o amser staff er mwyn ymchwilio ac ateb, gyda chost postio wedi'i ychwanegu lle bo'n briodol. Ni allwn gwblhau ymchwil manwl.
Ffoniwch staff cyfeirio'r llyfrgell ar 01792 636464 os hoffech drafod eich gofynion.