Toglo gwelededd dewislen symudol

Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi i aelodau'r cyhoedd hawliau tebyg i'r rheiny yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wrth wneud cais am wybodaeth amgylcheddol.

Mae gwybodaeth amgylcheddol yn cynnwys gwybodaeth a gofnodwyd gan y cyngor ynglŷn â:

  • chyflwr elfennau amgylcheddol megis aer, dŵr, pridd a thir
  • allyriadau a gollyngiadau, sŵn, ynni, ymbelydredd, gwastraff ac unrhyw sylweddau eraill
  • mesurau a gweithgareddau megis polisïau, cynlluniau a chytundebau sy'n effeithio neu sy'n debygol o effeithio ar gyflwr elfennau amgylcheddol
  • adroddiadau, cost a budd a dadansoddiadau economaidd a ddefnyddir yn y polisïau, y cynlluniau a'r cytundebau hyn
  • cyflwr iechyd a diogelwch dynol, halogi'r gadwyn fwyd a safleoedd diwylliannol a strwythurau adeiledig

Gwnewch gais am wybodaeth a gedwir

Nid oes rhaid rhoi rheswm dros ofyn am yr wybodaeth dan sylw. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r ffurflen hon - mae unrhyw gais ysgrifenedig yn ddigonol, ond drwy gwblhau'r ffurflen hon byddwch yn ein helpu i sicrhau bod eich cais yn cael ei drin yn brydlon.

Cais Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol Cais Rhyddid Gwybodaeth a Gwybodaeth Amgylcheddol

Close Dewis iaith