Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid i gefnogi darparwyr bwyd brys

Mae cymorth sy'n helpu teuluoedd ac unigolion i roi bwyd ar y bwrdd ar gael eto eleni.

Foodbank generic

Foodbank generic

Gall banciau bwyd, prosiectau sy'n cefnogi pobl sy'n agored i niwed neu mewn perygl o ddigartrefedd, yn ogystal â chynlluniau bwyta'n iach ar gyllideb, coginio, a thyfu cymunedol bellach wneud cais am gyllid i Gyngor Abertawe.

Mae cyfanswm o £64,000 o refeniw a £42,615 o gyllid cyfalaf ar gael i Abertawe yn y rownd gyntaf o grant cymorth bwyd brys eleni, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

I wneud cais ewch i: https://www.abertawe.gov.uk/bancbwyd. Y dyddiad cau yw dydd Sul 29 Mehefin.

Dros y gaeaf gwnaeth cyllid blaenorol gefnogi dros 60 o sefydliadau drwy ddarparu cymorth bwyd brys.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les, Alyson Anthony, "Mae'r arian hwn yn ychwanegol i gyllid y mae'r cyngor eisoes wedi'i gynnig i helpu i ddarparu prydau i ddisgyblion a theuluoedd y mae angen prydau arnynt ar gyfer y gwyliau haf sydd i ddod."

Oherwydd nifer y ceisiadau a ddisgwylir, awgrymir i grwpiau wneud cais am hyd at £1,500 o refeniw a £1,750 o gyfalaf.

Gall y rheini sy'n gwneud cais am fwy neu unrhyw un gydag unrhyw gwestiynau gysylltu â tacklingpoverty@abertawe.gov.uk i drafod cyn gwneud cais.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mehefin 2025